Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, and Ynys Môn

Applications for this grant are closed

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Bydd yn ailagor eto am hanner dydd ddydd Llun 17 Awst 2026 (yn amodol ar newid). Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol.  

Cliciwch y botwm isod i wylio ein fideos cam-wrth-gam, cael mynediad at ganllawiau, a darllen ein Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu i wneud cais drwy ein Hwb Grantiau.

Cofrestrwch in Cylchlythyr Grantiau i glywed am gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.

Mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn gronfa ledled Cymru a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas a bywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Bydd y gronfa yn dyfarnu grantiau o hyd at £12,500 am flwyddyn i sefydliadau’r trydydd sector a chymunedol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. Mae cyllid ar gael tuag at gostau craidd sy’n gwella cyfleoedd, lles a gwytnwch i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

Mae’r gronfa hon yn benodol ar gyfer sefydliadau y mae eu gwaith yn canolbwyntio’n unig ar gefnogi plant a phobl ifanc. Ni fydd sefydliadau sy’n darparu gwaith cymunedol ehangach ar gyfer pob oedran yn gymwys oni bai bod y sefydliad yn canolbwyntio’n glir ac yn unig ar gefnogi cymunedau o gefndiroedd nodweddiadol gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, megis rhyw, anabledd, ethnigrwydd, rhywioldeb neu ffydd, yn berthnasol. Fodd bynnag, rhaid i geisiadau fod yn benodol ar gyfer gwaith sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yn unig.

Dylai sefydliadau a gefnogir drwy’r gronfa hon gyfrannu tuag at un neu fwy o’r canlynol:

  • Cynyddu mynediad at fwyd iach ac eitemau hanfodol eraill gan gynnwys dillad, deunydd ysgrifennu a thechnoleg
  • Cefnogi iechyd meddwl a lles cadarnhaol
  • Helpu plant a phobl ifanc i adeiladu gwytnwch ariannol a sgiliau bywyd fel cyllidebu a chynilo
  • Cefnogi cyflogadwyedd, hyfforddiant a datblygu sgiliau
  • Annog ymwybyddiaeth amgylcheddol, cynaliadwyedd a chadwraeth
  • Cyflwyno gweithdai a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r themâu uchod
  • Cefnogi ymyriadau sy’n helpu disgyblion a myfyrwyr i ymgysylltu’n gadarnhaol â bywyd ysgol a chyfleoedd yn y dyfodol

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd a chyfleoedd i blant a phobl ifanc sydd heb eu gwasanaethu, sy’n agored i niwed neu’n profi anfantais, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd nodweddiadol gwarchodedig a’r rhai sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

I fod yn gymwys, rhaid i sefydliadau:
– Bod yn sefydliad trydydd sector neu gymunedol sy’n gweithredu yng Nghymru neu’r gororau (yn agos at gangen PBS). Rhaid iddynt ganolbwyntio’n unig ar gefnogi plant a phobl ifanc, neu fod yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar nodweddion gwarchodedig sy’n gwneud cais am waith sy’n cefnogi plant a phobl ifanc yn unig – Bod ganddynt incwm blynyddol o dan £500,000 yn eich cyfrifon ariannol diwethaf.- Bod yn gwneud cais am gostau craidd sy’n gysylltiedig â phlant a phobl ifanc yn unig – Dangos canlyniadau ac effaith glir i blant a phobl ifanc – Dangos sut y bydd y cyllid yn darparu parhad ystyrlon o gymorth – Heb gael cyllid o’r rhaglen hon yn y naill neu’r llall o’r ddwy rownd ariannu ddiwethaf

Rydym yn disgwyl cefnogi tua 15 o sefydliadau drwy’r rhaglen hon. Gellir rhoi blaenoriaeth i sefydliadau sydd â hanes cryf o gyflawni ac effaith gymunedol.

Grantiau ar gael

Bydd grantiau o hyd at £12,500 y flwyddyn am flwyddyn yn cael eu dyfarnu i sefydliadau‘r trydydd sector y mae eu gwaith craidd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc o dan 25 oed.

Pwy sy’n gallu ymgeisio?

Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd ag incwm o dros £500k oni bai bod modd gwneud achos untro eithriadol. E.e. Mae grant Cyfalaf wedi mynd dros y lefel incwm am 1 flwyddyn yn unig.

Byddem yn annog ac yn croesawu sgwrs cyn gwneud cais.

Ardal ddaearyddol a gyllidir: Cymru a changhennau’r Principality ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Os ydych chi’n sefydliad sydd wedi’i leoli yng Nghaer, Croesoswallt, Henffordd neu’r Amwythig, trefnwch alwad gyda Swyddog Grantiau, fel y gallwn benderfynu os yw eich lleoliad yn eich gwneud yn gymwys i dderbyn cyllid.

Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • Grwpiau gyda chyfansoddiad
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmni cyfyngedig gan warant
  • Cwmnïau buddiannau cymunedol
  • Mentrau cymdeithasol

Sylwch nad ydych yn gymwys i wneud cais os oes gennych grant aml-flwyddyn gweithredol o’r gronfa hon a ddyfarnwyd o fewn y 18 mis diwethaf.

Sylwer: Os ydych chi’n Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sydd wedi’i gofrestru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Os byddwch yn gwneud cais o fewn eich 18 mis cyntaf o fasnachu, bydd eich cais yn cael ei wrthod. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gofyn i sefydliadau yng Nghymru ystyried effeithiau tymor hir eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl a cymunedau a gyda’i gilydd a rhwystro problemau parhaus rhag codi, megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd.

Rydym yn awyddus i annog sefydliadau i feddwl nid yn unig am y gymuned ble maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddi, ond hefyd sut mae’u gwaith yn gydnaws â, ac yn cyd-fynd â gwasanaethau a gweithgareddau grwpiau a sefydliadau eraill, rhai gwirfoddol a rhai statudol. Fe hoffen ni i chi ystyried sut y gallai’ch sefydliad weithio gydag eraill er mwyn ychwanegu gwerth a gweithio mewn partneriaeth yn hytrach na chystadlu. Cofiwch egluro yn eich cais eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ar gyfer y presennol. Fe hoffen ni weld sut mae grwpiau’n gweld effeithiau tymor hir eu penderfyniadau er mwyn gallu gweithio gyda, ar y cyd, ag eraill.

How to apply?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer

  • Trwy gydol mis Ionawr 2026 mae ymrwymiad i weithio gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality a Sefydliad Cymunedol Cymru i gynhyrchu marchnata a chyfathrebu sy’n dathlu’r Sefydliadau/Grwpiau a ddyfarnwyd.
  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, ac mae’r telerau a’r amodau llofnodedig wedi cael ei dychwelwyd.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Os dyfernir grant aml-flwyddyn, rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
  • Os ydych chi’n Gwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) sydd wedi’i gofrestru yn ystod y 18 mis diwethaf, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Os byddwch yn gwneud cais o fewn eich 18 mis cyntaf o fasnachu, bydd eich cais yn cael ei wrthod. 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.

Contact us

You can contact us on 02920 379 580 or fill out the contact form below for more information.







    A young girl standing next to a donkey and holding its reins.

    Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

    Read more

    Make sure you're eligible

    Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application:

    Continue

    Grants

    View all

    Dr. Dewi Davies Endowment Fund – Individuals

    All, Carmarthenshire, Ceredigion and Mid and West Wales

    Hawarden & District Relief in Need Fund – Individuals

    All, Flintshire and North Wales

    Education Foundation for John Vaughan- Individuals

    All, Carmarthenshire and Mid and West Wales

    Rudbaxton Parish Education Fund – Individuals

    All, Mid and West Wales and Pembrokeshire