Adeiladu cymuned o gefnogwyr

Mae pawb yn gwybod y dywediad ‘Nid beth rydych chi’n ei wybod sy’n bwysig – ond pwy rydych chi’n ei adnabod’. Nid yw hyn ond yn berthnasol pan fyddwch chi’n ceisio cael swydd newydd – mae hefyd yn bwysig i bobl ym mhob sector sydd am ehangu eu rhwydweithiau busnes, boed yn y sector gorfforaethol neu drydydd sector. Pan fyddwch wedi ymwreiddio yn eich rôl mewn un sector, gall fod yn anodd estyn allan at y rhai sy’n gweithredu mewn gwahanol sector.

Ac mae’r rhwystr hwn yn mynd y ddwy ffordd – weithiau rwy’n ei chael hi’n anodd cysylltu â’r rhai yn y byd corfforaethol, ac rwyf wedi clywed gan y rhai sy’n gweithio o fewn CSR ar gyfer busnesau mawr bod ganddynt hwythau broblemau yn adeiladu’r cysylltiadau gorau y gallant gyda sefydliadau elusennol. Maen nhw’n ei chael hi’n hawdd adnabod y chwaraewyr mawr ym myd yr elusen, ond y tu hwnt i roi i achosion amlwg (a theilwng iawn) fel ymchwil canser, hosbisau plant, a llochesi anifeiliaid, mae’n anodd adnabod cyfleoedd dyngarol sy’n lleol neu achosion penodol.

Un ffordd hawdd o chwalu’r rhwystrau sector-eang hyn yw trwy gysylltu â rhwydwaith, sef lle gallwn ni yn Sefydliad Cymunedol Cymru helpu.

Mae gennym ni lawer o grwpiau gwahanol sy’n darparu unigolion sydd eisiau gwneud gwahaniaeth yng Nghymru gyda’r cyfle i wneud yn union hynny, heb yr ymrwymiad amser o fynd yn ymddiriedolwr, neu elfen ariannol o gofrestru i fod yn gefnogwr neu Ffrind.

Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n Rhwydwaith Cefnogwyr, grŵp sydd wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth am CFW ymysg pobl sy’n byw y tu mewn a’r tu allan i Gymru. Nid grŵp codi arian na marchnata mohono, na phwyllgor ffurfiol sy’n adrodd i’r bwrdd. Mae’n rhwydwaith o bobl sydd naill ai’n gwybod am CFW yn barod, neu unigolion sydd ddim yn gwybod llawer amdanom ni ond yn cefnogi ein cenhadaeth o newid bywydau yng Nghymru. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddarganfod beth maen nhw’n ei hoffi amdanon ni a beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol- beth yw ein USP.

Nid yw’r aelodau wedi ymrwymo i aros am nifer penodol o flynyddoedd, ac rydym yn annog llawer iawn o drosiant o fewn y grŵp. Mae gennym aelodau a fu mewn swyddi uchel yn y CBI, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, ar draws Llywodraeth Cymru a’r sector elusennol. Cynhelir cyfarfodydd yng Nghaerdydd a Llundain, gyda chynlluniau ar gyfer grwpiau Gogledd a Chanolbarth Cymru yn y dyfodol.

Dwi hefyd yn cyd-gadeirio Spotlight, gyda’r cyfreithiwr Hannah Williams. Mae Spotlight yn grŵp busnes hollol rhad ac am ddim, menywod yn unig, sy’n dod â gweithwyr proffesiynol y sector corfforaethol a trydydd sector ynghyd er lles pawb. Mae ein cyfarfodydd chwarterol yn rhoi’r cyfle i gwrdd â menywod sydd â gwerthoedd tebyg i chi, pob un yn rhannu nod cyffredin o gryfhau cymunedau Cymru, tra hefyd yn tyfu eich rhwydweithiau eich hun.

Mae pob unigolyn yn cael cyfle ei hun i gymryd y ‘sylw’ a siarad am eu rôl, tra hefyd yn clywed gan fenywod eraill, a darganfod mwy am eu heriau a’u llwyddiannau.

Os ydych chi eisiau darganfod mwy am ymuno ag un o’n rhwydweithiau, cysylltwch â ni.

 

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…