Bydd partneriaeth newydd Sefydliad Cymunedol Cymru gydag elusen y Seiri Rhyddion yn cefnogi Ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn falch o weithio gydag elusen y Seiri Rhyddion (MCF) drwy UK Community Foundations i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin ledled y wlad.

Bydd cyfran o’r gronfa £500,000 yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau lleol yng Nghymru sy’n cefnogi integreiddio ffoaduriaid Wcrainaidd i’w cymunedau lleol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Paratoi cymorth i ffoaduriaid sy’n cyrraedd o Wcráin
  • Ariannu’r gwaith o ddarparu gwasanaethau ar gyfer ffoaduriaid Wcrainaidd yn uniongyrchol
  • Datblygu cefnogaeth fwy hirdymor i integreiddio ffoaduriaid Wcrainaidd

Ynghyd â naw sefydliad cymunedol arall yn rhwydwaith Sefydliadau Cymunedol y DU, mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn cymryd rhan yn y prosiect oherwydd bod Cymru wedi croesawu nifer sylweddol o ffoaduriaid Wcrainaidd eleni.

Ar y bartneriaeth newydd, dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru, Richard Williams :

“Bydd yr arian hwn yn helpu grwpiau cymunedol ledled Cymru i barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl a ddadleolwyd gan wrthdaro ac sy’n ceisio noddfa. Bydd yn digwydd ochr yn ochr â’n gwaith ehangach i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid drwy Gronfa Croeso Cenedl Noddfa. Mae angen y gefnogaeth mae’r grwpiau yma yn ei gynnig nawr fwy nag erioed wrth i Gymru groesawu mwy o ffoaduriaid a cheiswyr lloches.”

Dywedodd Rosemary Macdonald, Prif Weithredwr Sefydliadau Cymunedol y DU:

“Rydyn ni’n falch o allu dosbarthu cefnogaeth i sefydliadau lleol sy’n gwneud cymaint i groesawu Wcrainiaid i’w cymunedau. Yr elusennau a’r grwpiau bach llawr gwlad sy’n adnabod eu hardaloedd lleol sydd orau yn gallu gwrando ar newydd-ddyfodiaid a’u helpu i ddod o hyd i’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.”

Dywedodd Les Hutchinson, Prif Weithredwr elusen y Seiri Rhyddion:

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu darparu cymorth sylweddol i Wcrainiaid mewn angen ar draws y wlad. Bu ton ddigynsail o gefnogaeth i Wcrainiaid gan y cyhoedd ym Mhrydain ond mae llawer iawn mwy sydd angen ei wneud. Mae’r rhain yn bobl sydd wedi gadael popeth ar ôl mewn gwlad sy’n dioddef effeithiau rhyfel dinistriol ac rwy’n falch bod y cymorth y mae Seiri Rhyddion wedi’i ddarparu bellach wedi mynd y tu hwnt i filiwn o bunnoedd.”

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…