Canu ar gyfer lles
“Alla i ddim mynegi digon pa mor ddiolchgar ydw i i’r côr am eu cefnogaeth bob wythnos gyda fy mam. Efo ei dementia, mae llawer o bwy y’n ni’n ei hadnabod fel mam wedi cael ei cholli, ond mae ei chlywed hi’n siarad am y côr pan dwi’n galw ac mae gwrando ar recordiadau dwi wedi cael fy anfon o’r grŵp yn wych – mae fel gwybod ei bod dal yno.“
Merch aelod o’r côr sy’n dioddef â dementia
Ganwyd Choirs for Good yng nghanol pandemig byd-eang Covid-19. Cafodd ei sefydlu gan grŵp o arweinwyr corau a oedd am ddefnyddio grym canu mewn grŵp i gysylltu a grymuso pobl a chymunedau.
Ganwyd Choirs for Good yng nghanol pandemig byd-eang Covid-19. Cafodd ei sefydlu gan grŵp o arweinwyr corau a oedd am ddefnyddio grym canu mewn grŵp i gysylltu a grymuso pobl a chymunedau.
Dyfarnwyd grant iddynt gan Gronfa i Gymru i dalu am gost offer cerddorol i agor côr wyneb yn wyneb ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ers cael ei sefydlu, mae’r côr wedi tyfu o ran hyder a phrofiad. Mae’r prosiect wedi helpu unigolion i wella o effeithiau ynysu Covid-19 a darparu amgylchedd diogel lle mae pobl wedi teimlo eu bod yn gallu dychwelyd i ryw fath o ‘normalrwydd’ ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod anodd.
Meddai J.J., sy’n aelod o’r côr:
“Roedd gen i ofn dod draw i gôr gyda phopeth sydd wedi digwydd gan fy mod i wedi cael canser ddwywaith ac yn imiwnoddiffygiant, ond dwi mor falch fy mod i wedi gwneud. Mae wir wedi rhoi rheswm i fi fynd allan o’r tŷ a rhywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos.”
Dywedodd Claire, merch Val, sy’n aelod o’r côr:
“I fi mae’r Côr wedi trawsnewid bywyd Mam a’i theulu agos. Mae wedi magu ei hyder, ar ôl y pandemig, i fynd allan eto, i’r côr a gyda ni am brydau a theithiau. Mae hi’n dod yn fyw pan fyddwn ni’n ymweld a phan fyddwn ni’n gofyn i Alexa chwarae’r caneuon amrywiol mae hi’n eu canu yn y côr, gallwn glywed ei llais yn esgyn gyda llawenydd wrth iddi ymuno â nhw.
Dwi’n gwybod bod ganddi rywbeth i edrych ymlaen ato bob wythnos ac i wisgo lan amdano. Mae’r canu yn cadw ei hymennydd yn actif ac mae cymysgu â phobl eraill yn sicrhau ei bod yn cadw’r sgiliau hynny’n fyw, sy’n dod yn fwy heriol wrth i’w chof barhau i ddirywio.
Mae’r prosiect yn dod â chymorth a phleser anfesuradwy i Mam ac dwi’n siŵr yn helpu i’w galluogi i reoli ei dementia a byw’n annibynnol, gobeithio am gyfnod hir i ddod.”
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.