Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain i gefnogi Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain

Cynhaliwyd Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain eleni yn Guildhall, Dinas Llundain, i gefnogi Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru.  Gydag ystod o siaradwyr Cymraeg gwadd, a cherddorion a chantorion o Opera Cenedlaethol Cymru, cynhaliodd y noswaith draddodiad cryf o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng nghraidd Llundain.

Dechreuodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru weithio ochr yn ochr â Chymru yn Llundain ym mis Mawrth, 2015, gyda sefydlu Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain.  Mae’r Gronfa’n cefnogi Cymry ifainc uchelgeisiol i ddilyn eu nodau proffesiynol ac addysgol.  Y noswaith arbennig iawn hon oedd y ddiweddaraf mewn cyfres o hybiau cyffrous i broffil y Gronfa, lle y gwahoddwyd pobl a chanddynt gysylltiadau cryfion â Chymru i roi yn ôl i greu’r un cyfleoedd  a all fod wedi bod yn fudd iddyn’ nhw.
Ar ôl areithiau gwadd gan chwaraewr rygbi  rhyngwladol Cymru, Jamie Roberts, a Robert Buckland, QC, AS, siaradodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, am y gwerth o osod esiampl o roi yn ôl, ac o annog eraill i wneud hynny.
“Cerddwn ochr yn ochr â llawer o roddwyr sydd eisiau helpu pobl ifanc, ac wrth imi sgwrsio â rhai o’r  100 fwy neu lai hynny o fyfyrwyr rydym yn eu cefnogi bob blwyddyn ag ysgoloriaethau – o brentisiaid trin gwallt i fyfyrwyr Gradd Meistr – caf yn wastad fy syfrdanu gan y ffaith mai cydnabyddiaeth, cael eu hystyried yn deilwng o ddiddordeb rhywun arall, sydd bron mor bwysig â’r elfen ariannol i’w helpu i gyflawni’u hamcanion.
“Mae llawer ohonom wedi bod yn ddigon ffodus i gael rhiant, noddwr, neu fentor i gerdded ochr yn ochr â NI.
“Dyma’r cymhelliad gwaelodol sydd gan Gronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain – cefnogi Cymry ifainc mentrus ac uchelgeisiol i fynd ar drywydd eu breuddwydion.
“A chan ddilyn eich esiampl chi o roi yn awr, gobeithiwn eu hannog nhw wedyn i roi yn ôl eu hunain.”
Mae Cronfa Ddyngarol Cymru yn Llundain yn Gronfa unigryw a reolir gan y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, ac mae’n enghraifft o’r effaith y gellir ei chael pan fo corff corfforaethol neu fudiad aelodaeth yn dewis cyfeirio’u rhoi drwy wasanaethau dyngarwch unswydd bwrpasol y Sefydliad.
Mae gan y Gronfa ar hyn o bryd £50,000, ac mae ganddi uchelgais hirdymor o adeiladu gwaddol sylweddol i ariannu bwrsariaethau ac ysgoloriaethau blynyddol.  Bydd pob rhodd i mewn i’r Gronfa (tan fis Mai 2016) yn derbyn arian cyfatebol i mewn i’r Gronfa i Gymru, diolch i Her Arian Cyfatebol y Gronfa Loteri Fawr i Gymru, gan ddyblu effeithiau rhoddion a chefnogi prosiectau cymunedol ledled Cymru, yn ogystal â ffocws y Gronfa ar ysgoloriaethau unigol.

News

View all

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read