Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru
Byddwch yn rhan o rwydwaith o bobl sy'n credu yng ngrym haelioni i helpu cryfhau cymunedau ar lawr gwlad ledled Cymru
Fel Cyfaill o Sefydliad Cymunedol Cymru, byddwch yn gweld drosoch eich hun sut mae cymunedau ledled Cymru yn wynebu heriau gwirioneddol, ac yn dod yn rhan o greu atebion parhaol.
Rydych hefyd yn buddsoddi ynom ni – gan gryfhau ein gwaith fel y gallwn gefnogi hyd yn oed mwy o gymunedau ar hyd a lled Cymru.
Mae eich aelodaeth yn helpu i dalu ein costau rhedeg y sefydliad, gan ein galluogi i ddod o hyd i’r elusennau a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mhob cwr o Gymru.
Dod yn Gyfaill Corfforaethol
Cofrestrwch nawrPam dod yn Gyfaill?
Mae eich aelodaeth flynyddol (£100 i unigolion, £500 i sefydliadau) yn ein helpu ni i barhau â’n gwaith. Fel Cyfaill, byddwch yn:
- Rhan o dyfu haelioni yng Nghymru
- Gweld sut mae eich rhodd yn creu effaith gymunedol barhaol
- Cwrdd â chefnogwyr o’r un anian
- Derbyn gwahoddiadau â blaenoriaeth i ddigwyddiadau ac ymweliadau
- Derbyn diweddariadau a straeon gan gymunedau ar hyd a lled Cymru
Mae eich cefnogaeth yn helpu i ysbrydoli haelioni a’i gysylltu â’r bobl a’r lleoedd sydd ei angen fwyaf. Sganiwch isod i ddarganfod mwy.

Cyfarfod ein Cyfeillion
Darllenwch fwy am yr unigolion a’r sefydliadau sy’n cefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru.
Darllen mwy