£500,000 i achosion tai lleol wrth i Nationwide agor ei broses ymgeisio am grantiau

  • Cyfle i sefydliadau elusennol lleol ledled Cymru elwa o grantiau o hyd at £50,000
  • Cymdeithas Adeiladu Nationwide yn gweithio gyda Sefydliad Cymunedol Cymru
  • Grantiau ar gael i daclo problemau tai mewn cymunedau lleol
  • Y broses ymgeisio ar agor nawr

Mae prosiectau tai ac elusennau lleol yn cael eu hannog i gyflwyno eu hachos wrth i Nationwide, cymdeithas adeiladu fwya’r byd, roi £500,000 ar gael i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Cymru.

Mae’r Gymdeithas yn gwahodd ceisiadau am grantiau o rhwng £10,000 a £50,000 ar gyfer prosiectau tai a fydd yn cefnogi’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.

Hyd yma, mae Nationwide wedi cyfrannu £4 miliwn mewn grantiau i fwy na 100 o brosiectau a bydd yn buddsoddi £5.5 miliwn mewn prosiectau tai ar draws y DU bob blwyddyn. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gyda chefnogaeth UK Community Foundation, y rhwydwaith genedlaethol ar gyfer pob Sefydliad Cymunedol achrededig ledled y DU.

Gall elusennau, ymddiriedolaethau tir cymunedol a mudiadau tai cymunedol o bob rhan o Gymru ymgeisio am grantiau o rhwng £10,000 a £50,000 am un neu ddwy flynedd i wneud gwahaniaeth i’w hardal. Bydd y broses ymgeisio’n cau ar 5 Gorffennaf a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd Medi.

Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae cael cartref diogel, fforddiadwy a chynaliadwy yn dod yn gynyddol anos mewn cymunedau ledled Cymru. Dyna pam rydyn ni’n falch o weithio gyda Chymdeithas Adeiladu Nationwide i ariannu’r sefydliadau sy’n taclo’r broblem ar y ddaear ac yn cefnogi’r rhai sydd mewn angen mwyaf”.

Meddai Gareth Franks, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru:

“Yn 2007, pleidleisiodd ein haelodau i gyfrannu o leiaf un y cant o’n helw cyn treth at achosion da a gofyn i ni ganolbwyntio ar daclo problemau tai. Rydyn ni’n cydnabod bod yna argyfwng tai sydd wedi arwain at lawer o bobl yn byw mewn llety anaddas, anniogel neu anfforddiadwy. Felly, i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol, rydyn ni’n anelu at roi £5.5 miliwn ar gael mewn grantiau i elusennau a sefydliadau ym maes tai ledled y DU bob blwyddyn.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn agor y broses ymgeisio ac yn annog elusennau a sefydliadau yn y maes tai i ymgeisio er mwyn gallu elwa o’r £500,000 sydd ar gael i gymunedau ym mhob rhan o Gymru.”

Mae’r prosiectau sydd wedi derbyn arian drwy’r rhaglen yn y gorffennol yn cynnwys:

  • SYSHP, sy’n cefnogi pobl ifanc digartref, neu sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref, yn Abertawe ac yn eu helpu i fyw’n annibynnol. Mae’r rhaglen wedi eu cefnogi i ymchwilio i fodelau newydd o ddarparu tai. Maen nhw’n siarad gyda phobl ifanc, eu teuluoedd a thenantiaid i ddatblygu modelau amgen ar gyfer pobl ifanc.
  • Mae Home Start Cardiff yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth mewn sgiliau bywyd i deuluoedd digartref er mwyn iddyn nhw allu ffynnu yn eu cartrefi eu hunain. Ariannodd Nationwide brosiect Tŷ Hapus i ddarparu hyfforddiant perthynas mewn hosteli er mwyn i deuluoedd a phobl ifanc allu adeiladau, cynnal ac adfer perthynasau allweddol a rheoli perthynasau ac anghydfod yn well, cadw eu tenantiaethau, gwneud gwell dewisiadau mewn bywyd a chael bywydau cadarnach gydol eu hoes.
  • Mae Age Cymru Sir Gâr yn darparu cefnogaeth hyblyg, ymarferol yn y cartref gan wirfoddolwyr sy’n helpu pobl dros 50 oed i fyw’n annibynnol. Roedd y Prosiect Future Aid yn cefnogi darparu gwasanaeth cymwynasgarwch sy’n helpu pobl gyda’u bywyd bob dydd mewn ffyrdd ymarferol ac yn eu helpu i aros yn eu cartrefi.

Bydd Bwrdd Cymunedol, sy’n cynnwys aelodau a staff Nationwide, yn adolygu pob cais am grant ac yn dyfarnu grantiau o hyd at £50,000. Bydd Bwrdd a changhennau Nationwide ledled Cymru hefyd yn cyfrannu amser ac arbenigedd i’r elusennau hynny.

Mae manylion llawn ar gael ar www.nationwide.co.uk/communityfunding, mewn canghennau Nationwide lleol yng Nghymru neu drwy gysylltu â Sefydliad Cymunedol Cymru.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…