Cronfa Waddol Cynnal

Gwynedd, I gyd, and Ynys Môn

Applications for this grant are open

Mae ceisiadau ar agor i grwpiau. Mae'r gronfa hon yn cau ddydd Llun 16 Mehefin 2025 am 12pm (hanner dydd).

Mae Cronfa Waddol Cynnal yn grant a fydd yn ariannu prosiectau addysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn, a bydd yn darparu cefnogaeth i’r themâu canlynol:

  • Gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant, pobl ifanc a phlant oed ysgol yn y blynyddoedd cynnar hyd at 18 oed.
  • Prosiectau ysgol/coleg sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a byw’n iach.

Grantiau ar gael

Mae grantiau o £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd ar gael i sefydliadau.

Gellir defnyddio grantiau i ariannu cyfalaf a/neu gostau rhedeg prosiect.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

Elusennau neu sefydliadau cymunedol dielw sy’n darparu gweithgareddau addysgol.

Ysgolion yng Ngwynedd neu Ynys Môn, i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol elusennol sy’n ychwanegol at ofynion gorfodol cwricwlwm yr ysgol.

Ni roddir grantiau i dalu am unrhyw gostau sy’n dod o dan ddarpariaethau statudol.

How to apply?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan. Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Apply now

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
An icon of a clipboard with ticks.

Make sure you're eligible

Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application:

Continue

Grants

View all

Principality Building Society Retrofit for the Future Fund

All, Blaenau Gwent, Bridgend

North East Wales Science Fund – Individuals

All, Conwy, Denbighshire

Cynnal Endowment Fund – Individuals

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales

Education Fund for Denbigh and Surrounding Area – Individuals

All, Denbighshire and North Wales