Dros £1.3m wedi’i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cymunedau Cymru drwy argyfwng costau byw

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi dyfarnu dros £1.3m mewn grantiau i elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi rhyddhau adroddiad effaith manwl ar eu cronfa “Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd” a grëwyd mewn partneriaeth â Newsquest i fynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn sgil yr argyfwng costau byw.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn manylu ar sut mae’r grantiau a roddwyd wedi galluogi mentrau cymunedol hanfodol, gan gynnwys banciau bwyd, hybiau cynnes, rhaglenni cymorth iechyd meddwl, a gwasanaethau canllawiau ariannol. Mae’r prosiectau hyn wedi gweithio i fynd i’r afael ag anghenion uniongyrchol, megis mynediad at gyflenwadau hanfodol, a gwytnwch tymor hwy trwy gydlyniant cymunedol ac ymdrechion lles.

Lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru y gronfa Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd ym mis Chwefror 2023, gydag apêl a atebwyd gyda rhoddion cyhoeddus yn ogystal â chyfraniadau hael gan Steve Morgan Foundation, NatWest, Waterloo Foundation, Moondance, Wind2, Dwr Cymru a Dragon Taxis.

Roedd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, yn cydnabod yn gyflym iawn yr angen brys a chynyddol ar gyfer grwpiau’n cefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw ledled Cymru ac, ar ran Llywodraeth Cymru, rhoddodd £1m i’r gronfa.

Fel y manylwyd yn yr adroddiad, mae 106 o grantiau wedi’u dyfarnu o’r gronfa, gyda 27% o grantiau wedi’u dyfarnu i brosiectau sydd wedi’u lleoli yn y 10% uchaf o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Pan fydd amseroedd yn anodd, mae Cymru’n dangos ei gwir gryfder drwy sut mae ein cymunedau’n dod at ei gilydd.

Drwy’r argyfwng costau byw, rydym wedi gweld gwydnwch a chydweithio anhygoel wrth i bobl gamu i’r adwy i gefnogi’r rhai mwyaf anghenus.

Mae cronfa Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd arianwyr, rhoddwyr a grwpiau llawr gwlad yn ymuno â’i gilydd i fynd i’r afael â heriau.

Drwy gydweithio, rydym nid yn unig wedi cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed ond hefyd wedi taflu goleuni ar y rôl hanfodol y mae grwpiau llawr gwlad yn ei chwarae wrth gefnogi a chryfhau ein cymunedau lleol.”

Dywedodd Gavin Thompson, Golygydd Newsquest:

“Mae’n fraint mewn papurau newydd lleol i gael perthynas uniongyrchol â chymunedau a thrwy’r apêl hon rydym wedi defnyddio hynny i gael cefnogaeth i rai o’r rhai mwyaf anghenus o gostau byw cynyddol.

Mae’n anhygoel gweld bod mwy na £1.3m wedi’i ddyrannu, mae mwy na 100 o brosiectau wedi derbyn cyllid ac mae prosiectau sy’n cynnwys mwy na 17,000 o wirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth, diolch i’r apêl hon.

Mae’n ein hatgoffa o bŵer gweithio mewn partneriaeth i wella bywydau ledled Cymru.”

Gallwch ddarganfod mwy yma.

News

View all
Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read

Community Foundation Wales appoints new chair

Community Foundation Wales appoints new chair