Cymuned yn ystod COVID-19

Pan darodd y cyfyngiadau symud y wlad ym mis Mawrth, cafodd byd miliynau o bobl eu crebachu i bedair wal.

Cafodd symud ei gyfyngu i strydoedd a siopau lleol. Roedd pobl agored i niwed a’r henoed mewn perygl o ddal y feirws pe bydden nhw’n mynd allan i siopa am fwyd, ond yn wynebu newyn ac unigrwydd pe bydden nhw’n aros y tu mewn. Roedd hi’n ymddangos yn amser anobeithiol iawn, ac nid oedd yn glir sut y gallem barhau i weithredu fel cymdeithas.

Ac eto, yn yr amgylchiadau anodd hyn, ymddangosodd cysylltiadau newydd. Daeth grwpiau cymunedol hyperleol i’r amlwg ar Facebook, gan gynnig cefnogaeth i gymdogion mewn angen. Ar fy stryd i, cafodd taflenni eu postio yn annog y rheiny oedd angen cymorth i gael bwyd a phresgripsiynau i gysylltu â nhw am gymorth.

Mae bwytai a siopau cludfwyd lleol wedi trawsnewid eu modelau busnes arferol er mwyn helpu’r rhai sydd ei angen, gan ddanfon prydau bwyd i weithwyr y GIG.

Ac fe wnaeth sefydliadau bach, gwirfoddol, oedd mewn perygl o fethu’n gyfan gwbl, newid o’u nodau elusennol arferol ac esblygu’n grwpiau sy’n cynnig achubiaeth i bobl mewn angen.

Mae’r cyfyngiadau symud wedi dangos, mewn anhrefn ac ansicrwydd, bod cymuned gysylltiedig yn gymuned sy’n gallu goroesi. Mae’r cysylltiadau hyn, a grëwyd gan awydd i weld rhywbeth da yn digwydd allan o argyfwng, wedi darparu cymorth hanfodol i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Sefydliadau bach, ar lawr gwlad sydd yn y sefyllfa orau i helpu eu cymuned leol oherwydd eu bod yn adnabod y bobl ac yn deall yr heriau sy’n eu hwynebu. Yr unig reswm mae’r sefydliadau hyn wedi gallu goroesi yw oherwydd y grantiau maen nhw wedi’u cael, yn aml wedi’u hariannu gan roddion gan fusnesau, unigolion a’r Llywodraeth.

Bydd y gwerthfawrogiad newydd hwn o gryfder gweithredu cymunedol wedi bod yn syndod i lawer, ond nid i’m cyd-weithwyr a minnau.

Ers 20 mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cysylltu rhoddwyr â’r bobl sy’n sbarduno newid a mynd i’r afael â rhwystrau mewn cymunedau lleol ledled Cymru.

Un o’r pethau rwy’n ei garu fwyaf am fy swydd yw gweld drosof fy hun y gwaith sy’n cael ei wneud ledled Cymru, ar lefel llawr gwlad, gan helpu pobl o bob cefndir.

Rydym yn helpu i sicrhau bod gweithredu cymunedol yn digwydd.

Cyflwynodd COVID19 nifer o heriau i ni, ond hefyd y cyfle i ddangos ein hyblygrwydd fel sefydliad.

O fewn pedwar diwrnod o gyflwyno’r cyfyngiadau symud, roeddem wedi sefydlu Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru, ac erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roedd £400,000 yn y gronfa.

O fewn pythefnos, roeddem wedi rhoi grantiau i 65 o sefydliadau.

Rydym wedi cynnal 30 o baneli grant yn ystod y 3 mis diwethaf, sef y nifer o baneli grant y byddem yn eu cynnal mewn blwyddyn fel arfer.

Gyda’i gilydd, ers canol mis Mawrth, rydym wedi cyflawni cyfanswm o £2.6 miliwn o arian cronfa, gyda grantiau wedi’u dyfarnu i dros 400 o grwpiau ledled y wlad.

Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn gyfnod anodd ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni ddangos gwaith hanfodol grwpiau a sefydliadau ar lawr gwlad a rhai hyperleol a rhoi gwybod i bobl Cymru beth yw ein nodau.

Os hoffech gael gwybod sut y gallwch ymwneud â’r gwaith rydyn ni’n ei wneud, cysylltwch â ni.

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…