Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies – Unigolion

Ceredigion, and Sir Gar

Applications for this grant are closed

Mae'r gronfa hon bellach ar gau. Bydd yn ailagor ym dydd Llun 11 mis Mai 2026 (yn amodol ar newid). Cofrestrwch i'n cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol.

Mae Cronfa Waddol Dr Davies yn darparu cymorth i:

  • Adeiladu hyder ac ehangu gorwelion i’r rhai sydd ag adnoddau ariannol cyfyngedig.
  • Galluogi unigolion talentog i ddilyn eu huchelgeisiau, er enghraifft trwy fwrsarïau, offer, offerynnau, ysgoloriaethau, cymorth teithio, cymorth chwaraeon, gwobrau cyrhaeddiad, a deunyddiau addysgol.

Y grantiau sydd ar gael

Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £1,000 am hyd at 3 blynedd.

Rhaid i geisiadau unigol ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Pwy all wneud cais?

Unigolion rhwng 11 a 25 oed, sy’n dod o’r Ardaloedd Allbwn Uwch Haen Isaf (LSOAs) neu sy’n byw ynddynt ar hyn o bryd, neu Wardiau fel y’u gelwir yn fwy cyffredin:

Yn Sir Gaerfyrddin

  • Cenarth
  • Cynwyl Elfed 1
  • Llanfihangel ar Arth 1 a 2
  • Llangeler
  • Llanybydder 1 a 2

Yng Ngheredigion

  • Aberporth 1 a 2
  • Beulah
  • Capel Dewi
  • Aberteifi Mwldan
  • Aberteifi Rhyd y Fuwch
  • Aberteifi Teifi, Llandyfriog
  • Tref Llandysul
  • Llanwenog
  • Penbryn, Pen-parc 1 a 2
  • Troedyraur

Mae’r gronfa’n cynnwys Trefi Aberteifi – Aberporth, Newcastle Emlyn, Llandysul a Llanybydder ynghyd â’r pentrefi cyfagos.

How to apply?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Ni all sefydliad neu berson gael mwy nag un grant o’r un gronfa ariannu. Os oes gennych grant ar hyn o bryd ac eisiau gwneud cais eto am yr un gronfa, mae angen i ddyddiad dechrau eich cais newydd fod ar ôl dyddiad gorffen eich grant presennol.

Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies – Unigolion

Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys

Read more

Make sure you're eligible

Please read the following text to ensure your eligibility before beginning your application:

Continue

Grants

View all

Hawarden & District Relief in Need Fund – Individuals

All, Flintshire and North Wales

Education Foundation for John Vaughan- Individuals

All, Carmarthenshire and Mid and West Wales

Rudbaxton Parish Education Fund – Individuals

All, Mid and West Wales and Pembrokeshire

Cynnal Endowment Fund – Groups

All, Gwynedd, Isle of Anglesey and North Wales