Mae ymddiriedaeth wrth galon ein gwaith a’n grantiau.
Rydym yn gweithredu gydag uniondeb a gonestrwydd yn y perthnasoedd rydyn ni’n meithrin, yn yr adnoddau sydd gennym, ac yn y penderfyniadau a wnawn. Mae hynny’n golygu bod yn dryloyw ynghylch sut rydym yn gweithio ac yn agored ynghylch yr hyn rydym yn ei ariannu.
Yma, gallwch weld yr ymrwymiadau rydym yn gweithio tuag at, yn unol ag egwyddorion Grantio Agored ac Ymddiriedus IVAR, a’r data rydym yn ei rannu am ein grantiau.

Rhannu Data Ein Grantiau
Rydym yn credu bod gwell gwybodaeth yn galluogi darparwyr grantiau i wneud penderfyniadau mwy effeithiol a strategol. Mae 360Giving yn darparu cefnogaeth i ddarparwyr grantiau gyhoeddi eu data’n agored, i ddeall y wybodaeth hon, ac i ddefnyddio’r data i greu offer ar-lein sy’n gwneud grantio yn fwy effeithiol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Mae’r gwaith hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Rhyngwladol Creative Commons Attribution 4.0. Cliciwch yma i weld copi o’r drwydded hon. Mae hyn yn golygu bod y data ar gael yn rhydd i unrhyw un ei ddefnyddio a’i rannu fel y dymunant. Rhaid priodoli’r data i Sefydliad Cymunedol Cymru.
Beth allwch ei ddisgwyl gennym ni
Rydym yn falch o fod wedi partneru ag IVAR (Institute for Voluntary Action Research) i sicrhau ansawdd ein prosesau grantio. Cliciwch yma i ddarllen mwy am ein partneriaeth ag IVAR, gan gynnwys ein hymrwymiadau i sicrhau Grantio Agored ac Ymddiriedus.
Read More