Hwb Grantiau newydd: cronfeydd ar gau dros dro wrth i ni brofi ein system newydd

Hwb Grantiau newydd: cronfeydd ar gau dros dro wrth i ni brofi ein system newydd

Wrth i ni baratoi i lansio ein Hwb Grantiau newydd yn y gwanwyn, mae’r rhan fwyaf o’n cronfeydd ar gau dros dro rhwng Ionawr ac Ebrill 2026.

Bydd y saib byr hwn yn ein galluogi i ni brofi’r system newydd, fydd yn sicrhau bod gwneud cais am gyllid gyda Sefydliad Cymunedol Cymru yn symlach, yn gyflymach ac yn gliriach.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Cronfa Cymru, Cronfa Gymorth Penarlâg a’r Cylch ar gyfer unigolion, a Chronfa Sefydliad Teulu Ashley yn aros ar agor, fel y gallwn barhau i dderbyn ceisiadau wrth brofi’r system newydd.

Bydd yr Hwb Grantiau newydd yn cynnig profiad gwell a mwy tryloyw i ymgeiswyr, gan weithredu fel man canolog i reoli ceisiadau a chwblhau gofynion monitro ar-lein. Mae hyn hefyd yn rhan o’n hymrwymiad parhaus o dan egwyddorion Grantiau Agored ac Ymddiriedus IVAR (Open and Trusting Grant-making), i barchu amser ymgeiswyr a symleiddio ein prosesau lle bynnag y bo modd.

Yn ystod y cyfnod profi, bydd ein tîm grantiau ar gael i ateb cwestiynau, rhoi cyngor neu’ch helpu i gynllunio ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn rhannu cyfleoedd hyfforddi a chanllawiau cam wrth gam cyn y lansiad, i helpu ymgeiswyr i ddod yn gyfarwydd â’r system newydd.

Mae’r saib byr hwn yn fuddsoddiad mewn gwneud pethau’n well. Rydym yn adeiladu system sy’n fwy hygyrch, tryloyw a chefnogol, fel bod gwneud cais am gyllid yn teimlo’n haws i bawb.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n newid a sut i baratoi drwy ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin isod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni ar grants@communityfoundationwales.org.uk neu ffoniwch 02920 379580.

News

View all
The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

We’ve launched our new Grants Hub!

We’ve launched our new Grants Hub!

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership