Eich Llais, Eich Rhyl: Yr Hyn a Glywsom a’r Camau Nesaf

Eich Llais, Eich Rhyl: Yr Hyn a Glywsom a’r Camau Nesaf

Ym mis Hydref 2025, buom yn gweithio mewn partneriaeth â The Neumark Foundation i gynnal Eich Llais, Eich Rhyl – digwyddiad cymunedol a oedd yn canolbwyntio ar newid hirdymor a pharhaol yn y Rhyl.

O’r cychwyn cyntaf, roeddem yn glir nad oedd hwn am fod yn ymgynghoriad arferol. Yn hytrach, roedd yn gyfle i wrando mewn ffordd wahanol, gan greu lle i bobl weithio ochr yn ochr, rhannu profiadau a dechrau llunio sut y gallai newid ystyrlon edrych i’r dref.

Rydym yn hapus i rannu uchafbwyntiau’r digwyddiad yn yr adroddiad yma. Mae’n crynhoi’r hyn a glywyd ar y diwrnod ac yn darparu sylfaen ar gyfer cam nesaf y gwaith hwn, gan helpu i droi uchelgais a rennir yn weithred ymarferol.

Tref arfordirol fywiog yw’r Rhyl gyda phoblogaeth o tua 27,000 o bobl, ac mae’n gartref i gymuned amrywiol sy’n cynnwys cyfran uwch o deuluoedd ifanc na’r cyfartaledd yng Nghymru, gyda dros un ym mhob pump o’r trigolion dan 16 oed. Er bod y dref yn wynebu heriau sylweddol – gan gynnwys lefelau ucheol o blant yn byw mewn teuluoedd incwm isel cymharol – dim ond rhan o stori’r Rhyl y mae’r ystadegau hyn yn eu hadrodd. Mae’r Rhyl hefyd yn gymuned sydd â gwreiddiau dwf a chysylltiadau cryf, lle mae gan drigolion y Rhyl fewnwelediad amhrisiadwy i ddeall sut gall cefnogaeth a chyfleoedd ddiwallu eu hanghenion yn well.

Drwy gydol y dydd, clywsom yn uniongyrchol gan drigolion am yr hyn sy’n bwysic iddynt, gan gynnwys cyfraniadau pwerus gan bobl ifanc. Dysgom hefyd o enghreifftiau o newid sy’n seiliedig ar le mewn rhannau eraill o’r DU, a chlywsom ymrwymiadau o gefnogaeth gan gyllidwyr, awdurdodau lleol a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Gyda’i gilydd, rhoddodd y sgyrsiau hyn ymdeimlad clir o’r hyn sy’n bosibl pan fydd cymunedau a phartneriaid yn dod at ei gilydd gydag un nod cyffredin, a phan gaiff y rhwystrau rydym i gyd yn eu hwynebu yn cael eu chwalu.

Rydym yn falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â The Neumark Foundation a phartneriaid eraill i greu’r cyfle hwn i wrando a chysylltu. Ein rôl ni bellach fel Sefydliad Cymunedol Cymru, yw parhau i gefnogi’r momentwm hwnnw – boed hynny drwy ddod â chyllidwyr a rhoddwyr at ei gilydd, drwy waith ein rhaglenni grantiau, neu drwy rannu ein harbenigedd ym maes dyngarwch a buddsoddiad hirdymor – wrth i’r Rhyl lunio’r hyn sy’n dod nesaf.

 

News

View all
The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

We’ve launched our new Grants Hub!

We’ve launched our new Grants Hub!

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership