Cadw ein cyfathrebiadau’n ddiogel
Mae ymddiriedaeth, tryloywder a diogelwch wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr, derbynwyr grantiau, rhoddwyr a phartneriaid. Rydym yn deall bod gweithio gyda chyllidwr yn aml yn golygu rhannu gwybodaeth bersonol neu sefydliadol, ac rydym yn cymryd yr ymddiriedaeth a roddwch ynom o ddifrif.
Rydym yn ymwybodol bod rhai sefydliadau ar draws y sector elusennol a chyllido wedi derbyn galwadau a negeseuon e-bost twyllodrus yn ddiweddar gan bobl sy’n esgus bod yn sefydliadau dibynadwy. Er nad yw hyn yn unigryw i’r trydydd sector, credwn ei bod yn bwysig bod yn agored ynghylch sut rydym yn cyfathrebu gyda chi.
Pan fyddwn yn cysylltu â chi, bydd hynny bob amser am reswm clir a dilys – er enghraifft, mewn perthynas â chais, grant rydych wedi derbyn, neu ymholiad rydych eisoes wedi’i wneud. Ni fyddwn byth yn cysylltu â chi’n annisgwyl i ofyn am fanylion banc, cyfrineiriau na thaliadau, ac ni fyddwn byth yn gofyn am roddion na ffioedd dros y ffôn.
Os byddwch byth yn derbyn galwad, e-bost neu neges sy’n honni ei bod oddi wrthym ni ac nad ydych yn siŵr, rydym yn eich annog gysylltu â ni’n uniongyrchol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar ein gwefan. Byddwn bob amser yn hapus i gadarnhau os yw’r cyfathrebiad gan ein tîm.
Rydym yn adolygu ein dull o gyfathrebu a diogelwch data yn rheolaidd er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau diogelu. Mae hyn yn ein helpu i gynnal perthnasoedd dibynadwy gyda phawb rydym yn gweithio gyda, ac yn helpu i gadw chi a’ch data’n ddiogel.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth gyffredinol am gadw’n ddiogel ar-lein, mae Canolfan Gwydnwch Seiber Cymru yn darparu canllawiau clir ac ymarferol yma: https://www.wcrcentre.co.uk/