Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality

Dyfarnwyd £600,000 i gymunedau ledled Cymru drwy bartneriaeth gyda’r Principality

Rydym yn falch iawn o rannu’r rownd ddiweddaraf o gyllid a ddyfarnwyd drwy ein partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality, sydd wedi gweld £600,000 yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau ledled Cymru.

Yn y rownd hon, dyfarnwyd £500,000 i 15 o sefydliadau drwy Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol y Principality, ynghyd â bron i £100,000 i bedwar sefydliad drwy Gronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol. Mae’r ddwy gronfa’n cefnogi grwpiau ar lawr gwlad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – o helpu pobl ifanc i ffynnu, i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau cymunedol.

Ers lansio’r cronfeydd yn 2022, mae £2 filiwn bellach wedi’i ddyfarnu drwy’r ddwy raglen, a gyflwynir mewn partneriaeth â Principality. Dyfernir grantiau’n flynyddol i sefydliadau dielw ledled Cymru, gan gynnwys elusennau a grwpiau cymunedol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl leol.

Mae prosiectau a gefnogwyd eleni yn cynnwys sefydliadau fel Mid Powys Youth Theatre, Stepping Stones North Wales, Newport Cricket Club, a Child of the Earth CIC yng Ngogledd Sir Benfro, sy’n darparu profiadau cynhwysol, seiliedig ar natur, i deuluoedd plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r cronfeydd hyn yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor Principality i les cymdeithasol, pobl ifanc a chynaliadwyedd amgylcheddol, yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Dywedodd Nigel Taylor, Pennaeth Brand, Effaith a Chyfathrebu yn Gymdeithas Adeiladu’r Principality, ei fod yn falch o weld effaith dyfarniadau eleni:

“Mae cefnogi rhoi elusennol a chymunedau ledled Cymru a yn ganolog i’n gwerthoedd ni yn Principality Building Society. Fel sefydliad cydfuddiannol, rydym yn ail-fuddsoddi hyd at 3% o’n helw er budd ein Haelodau – mae’r ymrwymiad hwn yn rhan graidd o’n pwrpas, sef adeiladu cymdeithas decach. Rydym yn hynod falch o weld yr holl brosiectau a sefydliadau sydd wedi elwa o gronfeydd eleni. Mae Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol a Chronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru ac yn cefnogi achosion pwysig – rhywbeth rydym wedi ymrwymo’n gadarn iddi.”

Ychwanegodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cyunedol Cymru:

“Rydym yn falch o barhau â’n partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality wrth i ni ddechrau ein pumed blwyddyn o weithio gyda’n gilydd i gefnogi cymunedau ledled Cymru. Drwy Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol a Chronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol, mae’r bartneriaeth hon wedi cefnogi gwaith gyda phobl ifanc ac wedi helpu cymunedau i gymryd camau ymarferol i leihau eu costau ynni a’u heffaith amgylcheddol. Trwy weithio mewn partneriaeth, gallwn sicrhau bod cyllid yn cyrraedd sefydliadau ar lawr gwlad ac yn ymateb i’r materion sydd bwysicaf yn lleol.”

News

View all
Keeping our communications safe

Keeping our communications safe

Your Voice, Your Rhyl: What We Heard and What Comes Next

Your Voice, Your Rhyl: What We Heard and What Comes Next

New Grants Hub: funds temporarily paused while we test our new system

New Grants Hub: funds temporarily paused while we test our new system

2025: A year of community voice, growth and connection across Wales

2025: A year of community voice, growth and connection across Wales