Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Rydym wedi lansio ein Hwb Grantiau newydd!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein Hwb Grantiau newydd bellach yn fyw.

Mae’r system newydd yn ei gwneud yn symlach, yn gyflymach ac yn gliriach i wneud cais am grantiau a’u rheoli gyda Sefydliad Cymunedol Cymru, gan ein helpu i gefnogi cymunedau yn fwy effeithlon ledled Cymru.

Drwy’r Hwb Grantiau, gallwch nawr:

  • Weld a rheoli eich holl geisiadau grant mewn un lle
  • Olrhain cynnydd eich cais
  • Derbyn grantiau a gymeradwywyd ar-lein
  • Cwblhau gofynion monitro yn gyflym ac yn hawdd
  • Diweddaru manylion eich sefydliad pryd bynnag y bydd angen

Rydym hefyd wedi symleiddio ein ffurflenni fel ein bod ond yn gofyn am y wybodaeth sy’n wirioneddol bwysig, gan adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus o dan egwyddorion Grantio Agored ac Ymddiriedus IVAR i barchu amser ymgeiswyr a gwneud ein prosesau’n fwy hygyrch.

Rydym yn falch iawn o lansio system sydd wedi’i chynllunio o amgylch y bobl sy’n ei defnyddio. Mae’r Hwb Grantiau newydd yn gam mawr ymlaen yn y ffordd rydym yn darparu cyllid, gan wneud y broses yn haws, yn gliriach ac yn fwy tryloyw i ymgeiswyr, cyllidwyr a’n partneriaid.

Mae’r holl ddata cais presennol wedi’i drosglwyddo’n ddiogel i’r system newydd, a gallwch nawr gofrestru neu fewngofnodi drwy ein gwefan.

I’ch helpu i ddechrau, rydym wedi creu amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi a chanllawiau, gan gynnwys cyfarwyddiadau cam wrth gam a fideos byr sy’n eich tywys drwy nodweddion newydd y system.

Mae’r Hwb Grantiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac mae ein tîm wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu gynnig cyngor.

  • I ddarganfod mwy am ein grantiau a’r hwb, cliciwch yma
  • Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin am yr hwb yma
  • Gwyliwch ein canllawiau ar gyfer cwblhau eich cais yma
  • Angen cymorth pellach? Anfonwch e-bost at grants@communityfoundationwales.org.uk neu ffoniwch 02920 379580.

News

View all
The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership

Keeping our communications safe

Keeping our communications safe