Cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu
“I bobl sydd ag anableddau dysgu/awtistiaeth, gall y cyfnod ‘pontio’ deimlo fel pe baech yn sefyll ar ymyl clogwyn. Gall y rheini sydd wedi bod yn cael cymorth eu cael eu hunain heb ofal na chymorth pan fyddant yn 18 oed. Bydd y Gweithiwr Pobl Ifanc yn gweithio gyda’r bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth yn ystod y cyfnod pontio yn yr ysgol, er mwyn sicrhau bod ganddynt lais yn eu dyfodol.”
Mae Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i gynnal hawliau’r bobl sydd ag anableddau dysgu/awtistiaeth yn sir Pen-y-bont ar Ogwr. Dyfarnodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru grant o £10,000 i Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cyflogi gweithiwr Pobl Ifanc yn Gyntaf i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu/awtistiaeth drwy’r cam ‘pontio’.
Mae’r grant wedi galluogi Pobl yn Gyntaf Pen-y-bont ar Ogwr i gyflogi gweithiwr Pobl Ifanc yn Gyntaf a fydd yn cefnogi pobl sydd ag anableddau dysgu/awtistiaeth drwy gynnal grwpiau trafod, cydgysylltu â darparwyr cyflogaeth a hyfforddiant ar eu rhan, cynnig arweiniad i rieni a darparu adnoddau cynllunio er mwyn helpu gyda’r cyfnod pontio.
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.