Symud o hostel digartref i fyd busnes
“Mae Tom wedi bod yn gwirfoddoli’n rhagweithiol ar brosiect adeiladu/garddio ers iddo fod yn rhan o’r prosiect ac mae wedi bod yn ymrwymedig iawn i fynychu sawl gwaith yr wythnos dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae bellach yn barod i fynd ati i ddechrau ei fusnes ei hun ar raddfa fach ac adeiladu hwn i fyny eto.”
Aeth Tom* yn ddigartref yn 2014 ar ôl i’w berthynas â’i bartner chwalu. Roedd yn byw mewn hostel a bellach mae’n byw yn un o Dai â Chymorth Huggard. Dyfarnwyd grant o £750 drwy Huggard i brynu’r cyfarpar roedd ei angen arno i’w helpu i ddechrau ei fusnes adeiladu eto.
Cyn mynd yn ddigartref, roedd Tom yn rhedeg cwmni adeiladu sefydledig yr oedd wedi’i ddatblygu o ddim byd. Cafodd y newid yn ei amgylchiadau personol effaith andwyol ar ei iechyd a’i lesiant cyffredinol a’i hunan-hyder. Chwalodd ei fusnes ac fe’i cafodd ei hun yn dibynnu ar fudd-daliadau salwch a gwasanaethau digartrefedd rheng flaen er mwyn cefnogi ei hun.
Mae’r grant wedi helpu Tom i brynu cyfarpar er mwyn ei helpu i ddechrau ei fusnes yn y gymuned leol. Bydd hyn yn ei helpu i symud i ffwrdd o ddibynnu ar fudd-daliadau a dod yn fwy annibynnol yn ariannol.
Mae ailadeiladu ei fusnes wedi rhoi ymdeimlad gwych o bwrpas iddo ac mae’n gobeithio rhoi yn ôl i’r gymuned leol drwy gyflogi pobl yn yr ardal leol.
*Mae’r enw wedi’i newid
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.