Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol drwy gefnogaeth gymunedol yng Nghasnewydd

Rydym yn falch o gefnogi sefydliadau ledled Cymru lle mae amrywiaeth, cynhwysiant a chysylltiad cymunedol wrth galon eu gwaith bob dydd.

Dathlu amrywiaeth ddiwylliannol drwy gefnogaeth gymunedol yng Nghasnewydd

Yn ddiweddar, fe wnaeth cymunedau ledled y byd nodi Diwrnod y Byd dros Amrywiaeth Ddiwylliannol – dathliad o’r nifer o ddiwylliannau, profiadau a hunaniaethau sy’n helpu i lunio ein cymdeithas.

Un enghraifft ysbrydoledig yw And Breathe, grŵp rhieni a gofalwyr ym Metws, Casnewydd, sy’n cefnogi plant ag ystod eang o anableddau ac anghenion ychwanegol, ynghyd â’u teuluoedd.

Creu mannau cynhwysol i deuluoedd

Diolch i gyllid gan ein Cronfa Betws Caryl a Henry, mae And Breathe wedi gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau llesiant a chreadigol sydd wedi’u cynllunio i gefnogi plant a’u teuluoedd.

Mae’r sesiynau yn cynnwys ysgrifennu dyddiaduron, crefftio, gwau a gweithgareddau creadigol eraill sy’n annog cysylltiad, hyder a hunanfynegiant mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

I lawer o’r plant sy’n mynychu, mae’r gweithgareddau hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i greu cyfeillgarwch a theimlo’n rhan o gymuned ehangach. I deuluoedd a rhieni-ofalwyr, mae’r grŵp yn cynnig rhywbeth yr un mor bwysig: dealltwriaeth a chysylltiad ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg.

Effaith ehangach cyllid cymunedol

Un o ganlyniadau mwyaf pwerus y prosiect fu’r effaith ehangach a grëwyd o fewn y gymuned.

Rhannodd y grŵp fod llawer o’r rhieni-ofalwyr a ddaeth i’r sesiynau yn wreiddiol, wedi dod yn wirfoddolwyr rheolaidd yn y ganolfan gymunedol. Mae hyn yn dangos sut y gall symiau cymharol fach o gyllid sbarduno cyfranogiad cymunedol hirdymor.

Drwy greu mannau lle mae teuluoedd yn teimlo’n groesawgar ac yn cael eu gwerthfawrogi, mae sefydliadau fel And Breathe yn helpu i gryfhau cymunedau cysylltiedig ar draws Casnewydd a thu hwnt.

Pam mae cefnogi cymunedau amrywiol yn bwysig

Mae amrywiaeth cymunedau yn un o gryfderau mwyaf Cymru.

Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi sefydliadau sy’n hyrwyddo cynhwysiant, hygyrchedd ac ymdeimlad o berthyn drwy ein rhaglenni ariannu.

Mae grwpiau gar lawr gwlad fel And Breathe yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynrychioli a’u cysylltu o fewn eu cymunedau lleol. Mae eu gwaith yn tynnu sylw at bwysigrwydd mannau hygyrch dan arweiniad y gymuned lle mae pawb yn cael cyfle i gymryd rhan a ffynnu.

Hoffem ddiolch i And Breathe am y gwahaniaeth anhygoel maent yn ei wneud i fywydau plant a theuluoedd ledled Casnewydd.

Rydym hefyd yn ddiolchgar i gefnogwyr Cronfa Betws Caryl a Henry, y mae eu haelioni wedi helpu i wneud y gwaith hwn yn bosibl.

Helpwch i gefnogi’r cymunedau rydych yn gofalu amdanynt

Os hoffech gefnogi prosiectau cymunedol amrywiol a chynhwysol ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn siarad gyda chi.

P’un a’i oes gennych ddiddordeb mewn dyngarwch personol neu gefnogi cymunedau drwy gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu i gysylltu eich haelioni gyda’r achosion sy’n bwysig i chi.

Stories

Supporting mental health in communities across Wales

Supporting mental health in communities across Wales

This Mental Health Awareness Week, we’re recognising the vital work of community organisations across Wales that are helping people feel connected, supported and empowered.

Why local philanthropy in Wales creates lasting impact

Why local philanthropy in Wales creates lasting impact

For those who care about communities in Wales, local giving offers a powerful way to make a real difference where it matters most.

How partnership funding is supporting communities in mid Wales

How partnership funding is supporting communities in mid Wales

The story of Shakespeare Link offers a compelling example of how collaboration between funders, community organisations and local partners can create meaningful, lasting impact.

Visiting Silkfutures: creativity, confidence and community in action

Visiting Silkfutures: creativity, confidence and community in action

Fund for Wales