Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Ashley Family Foundation wedi dyfarnu £41,400 drwy gyllid aml-flwyddyn i’r Heritage Crafts Association, i gefnogi talent mewn crefftau treftadaeth traddodiadol.

Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae’r bwrsariaethau wedi cefogi:
• Dai o Fae Colwyn mewn gwaith gof
• Emily o Lanfairfechan mewn melino hetiau
• Rae o Aberhonddu mewn gwaith coed a chadwraeth pren

Creu cyfloedd newydd

I Dai, sy’n gwneud gwaith gof rhan-amser ac sy’n ddiffoddwr tân ar alwad, galluogodd y fwrsariaeth fynediad at hyfforddiant arbenigol na fyddai wedi bod yn hawdd ei derbyn fel arall, oherwydd diffyg darpariaeth leol.

Ariannodd gwrs gwaith gof pythefnos gyda Spike Blackhurst yn Llanbrynmair, yn ogystal â chwrs castio metel yn Lerpwl.

Mae Dai, sydd gyda dyspracsia, wedi wynebu heriau mewn amgylcheddau cyflogaeth draddodiadol lle’r oedd yn aml yn teimlo nad oedd yn cael ei ddeall. Mae gwaith gof nid yn unig wedi agor drysau proffesiynol, ond mae hefyd wedi rhoi mwy o hyder, annibyniaeth a theimlad o ryddid i Dai.

Ei uchelgais hirdymor yw sefydlu ei fusnes gwaith gof ei hun a defnyddio ei sgiliau i adfer gwaith haearn ger ei Safle Treftadaeth Byd UNESCO lleol, yn ogystal â dysgu gwaith gof mewn coleg lleol.

I Emily, roedd y fwrsariaeth yn gyfle hanfodol i barhau i ddatblygu ei hymarfer melino ar ôl salwch a phroblem iechyd sydyn, oedd yn golygu bod ei gyrfa flaenorol mewn ffisiotherapi wedi gorfod dod i ben.

Mae Emily’n bwy yng nghefn gwlad gogledd Cymru, ac mae gyda niwroamrywiaeth a heriau symudedd fel defnyddiwr cadair olwyn ran-amser, felly mae mynediad at hyfforddiant strwythuredig wyneb yn wyneb wedi bod yn gyfyngedig.

Mae’r cyllid wedi galluogi Emily i gwblhau cymhwyster Melino Lefel 2 City and Guilds, ynghyd â phedwar diwrnod o hyfforddiant un-i-un mewn brodwaith gwellt gyda’r ymarferydd blaenllaw Claire de Waard yn Llundain, gan ddatblygu ei sgiliau a’i datblygiad proffesiynol yn sylweddol.

Defnyddiodd Rae, saer coed hunangyflogedig sy’n arbenigo mewn strwythurau pren yn yr amgylchedd adeiledig, ei fwrsariaeth i gwblhau tri chwrs hyfforddi arbenigol i ddyfnhau eu harbenigedd mewn cadwraeth.

Fel saer coed anneuaidd o gefndir dosbarth gweithiol, mae Rae wedi profi rhagfarn a gwahaniaethu mewn sector sy’n draddodiadol yn rhoi gorbwysedd i gyflogi ddynion, gyda mynediad cyfyngedig at fentora a rhwydweithiau proffesiynol.

Y tu hwnt i effaith unigol

Er bod y bwrsariaethau wedi cefnogi tri unigolyn, mae’r effaith ehangach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ddatblygiad personol yn unig.

Ers hynny mae Rae wedi sefydlu The Woodworkers Alliance, rhwydwaith sy’n cysylltu gwneuthurwyr newydd sydd ar wahân yn hanesyddol, gyda mentoriaid medrus. Mae’r fenter hon yn helpu i sicrhau bod sgiliau treftadaeth nid yn unig yn cael eu diogelu, ond hefyd yn cael eu rhannu’n weithredol ac yn fwy hygyrch i’r gymuned ehangach.

Yn y cyfamser, mae datblygiad Dai wedi cael effaith gymunedol hirdymor. Mae ei uchelgais i adfer gwaith haearn hanesyddol ger Safle Treftadaeth Byd UNESCO, a dysgu gwaith gof yn lleol, yn dangos sut y gall buddsoddi mewn sgiliau unigol arwain at fanteision diwylliannol, addysgol a lleol ehangach.

Pam mae’r gwaith hwn yn bwysig

Mae’r rhaglen hon yn dangos gwerth hirdymor buddsoddi mewn pobl sy’n helpu gwarchod cadwraeth ddiwylliannol ac yn datblygu’r gymuned.

Nid sgiliau technegol yn unig yw crefftau treftadaeth, maent yn draddodiadau sy’n dibynnu ar drosglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i’r llall. Heb gefnogaeth wedi’i thargedu, gall mynediad at hyfforddiant gael ei gyfyngu gan ddaearyddiaeth, anabledd, cyfyngiadau ariannol ac anghydraddoldebau strwythurol yn y diwydiannau creadigol.

Drwy ddarparu bwrsariaethau a chyfleoedd mentora, mae’r rhaglen hon yn helpu i atal rhai o’r rhwystrau hyn ac yn sicrhau nad yw talent yn cael ei golli oherwydd diffyg cyfle.

Creu llysgenhadon y dyfodol ar gyfer crefftau Cymreig

Yn y pen draw, mae’r cyllid hwn yn ymwneud â mwy na hyfforddi unigolion. Mae’n ymwneud â chefnogi llysgenhadon y dyfodol ar gyfer crefftau treftadaeth Cymru – pobl a fydd yn mynd ymlaen i ddysgu, mentora ac ysbrydoli eraill.

Trwy fuddsoddiad dyngarol wedi’i dargedu, mae Ashley Family Foundation nid yn unig yn helpu i ddiogelu sgiliau crefft sydd mewn perygl o ddiflannu, ond hefyd yn cryfhau’r cymunedau, rhwydweithiau a’r dyfodol sy’n dibynnu arnynt.

Rydym yn falch o gefnogi gwaith sy’n dangos sut y gall buddsoddi mewn pobl heddiw ddiogelu diwylliant, cyfleoedd a chreadigrwydd am genedlaethau i ddod.

Stories

“The little things can make all the difference” – Supporting Communities Through the Cost of Living Crisis

“The little things can make all the difference” – Supporting Communities Through the Cost of Living Crisis

Ammanford Food Bank

Celebrating Pride Month and the power of community support in Wales

Celebrating Pride Month and the power of community support in Wales

We’re proud to support many organisations working year-round to improve the lives of LGBTQ+ people across Wales.

How small grants can create life-changing opportunities

How small grants can create life-changing opportunities

When people think about philanthropy, it’s often the large-scale donations and major fundraising campaigns that come to mind. But relatively small amounts of funding can also have a transformative impact on someone’s future.

Celebrating cultural diversity through community support in Newport

Celebrating cultural diversity through community support in Newport

We’re proud to support organisations across Wales where diversity, inclusion and community connection are at the heart of their work every single day.