Darganfod cyfeillgarwch drwy gelf
“Rwyf mor ddiolchgar bod y grŵp hwn yn bodoli ac rwy’n gwybod bod aelodau anabl eraill hefyd wrth eu bodd â’r cyfarfodydd, o’r rhai sydd ag awtistiaeth i’r rhai sydd ag M.E.”
Mae Celf Able yn grŵp sy’n dod ag unigolion sydd ag anableddau ac artistiaid sydd ag anableddau ynghyd i rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd. Cafodd y grŵp grant o £942 i gynnal dwy sesiwn celf y mis ar gyfer grŵp o bobl ag amrywiaeth o anableddau.
Mae’r prosiect wedi helpu gyda’r gwaith o fynd i’r afael â’r ynysu a’r allgáu y mae rhai pobl sydd ag anableddau yn eu hwynebu ac yn galluogi unigolion i gymryd rhan mewn celf therapiwtig. Roedd gan y cyfranogwyr gyfle i roi cynnig ar gyfryngau celf gwahanol er mwyn sicrhau bod pawb yn dod o hyd i rywbeth roeddent yn ei fwynhau.
Roedd y grŵp yn darparu lle i bobl sydd ag anableddau greu celf, cymdeithasu a rhannu cymorth a chyngor gyda chymheiriaid.
Nododd y bobl a oedd yn mynychu’r grwpiau hyn fod canolbwyntio ar gelf wedi’u helpu i ymlacio a’u bod yn gallu mynegi eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. Roedd hefyd wedi’u helpu i ddatblygu cydberthnasau ag aelodau eraill o’r grŵp.
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.