Cryfhau teuluoedd drwy ddod a chymuned at ei gilydd
“Rydym yn mwynhau gweld y plant yn y ganolfan, dyma’r peth gorau sydd wedi digwydd yng Nghwm Aur.”
Mae Canolfan Deuluol Llanybydder yn cefnogi teuluoedd, yn enwedig y rhai hynny sydd o dan anfantais o ganlyniad i ynysu gwledig, tlodi a diffyg hyder. Cafodd y ganolfan grant o £2,250 er mwyn ariannu ei phrosiect ‘Hwyl A Sbri’ sy’n helpu i leihau achosion o ynysu ac adeiladu rhwydweithiau sy’n pontio’r cenedlaethau rhwng teuluoedd a phreswylwyr y cartref ymddeol cyfagos.
Mae Canolfan Deuluol Llanybydder yn cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i deuluoedd ddod i gyfarfod â theuluoedd eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae cadarnhaol gyda’u plant.
Mae’n gweithio gyda rhieni er mwyn lleihau’r problemau a achosir gan ynysu, deiet gwael, problemau iechyd ac incwm isel drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau, cyrsiau a gweithdai sy’n canolbwyntio ar y teulu.
Mae’r cyllid a gafwyd wedi galluogi’r ganolfan y gynnal ei phrosiect Hwyl A Sbri, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu ynghylch garddio, ymarfer corff, bwyta’n iach, celf, crefft, darllen a gemau. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus wrth ymgysylltu â phreswylwyr y pentref ymddeol a theuluoedd y ganolfan. Mae wedi helpu’r trigolion i brofi gweithgareddau gwahanol a theimlo’n llai ynysig ac mae’r teuluoedd wedi dod yn agosach at ei gilydd drwy’r amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael.
Mae Hwyl A Sbri hefyd wedi annog teuluoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol ehangach megis y carnifal lleol, diwrnodau hwyliog a boreau coffi. Mae hyn wedi arwain at fwy o ysbryd cymunedol ac ymdeimlad o berthyn i’r oedolion a’r plant.
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.