Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig. Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.

Weithiau Gall y Grantiau Llai Gael yr Effaith Fwyaf

Pan fydd pobl yn meddwl am roi i elusen, mae’n hawdd dychmygu bod angen symiau sylweddol o arian er mwyn creu newid ystyrlon. Ac wrth gwrs, mae hyn yn hollbwysig.

Ond weithiau, mae’r gwahaniaethau mwyaf yn dechrau gyda’r buddsoddiad lleiaf.

Gofynnwch i Eglwys y Nasaread yn Llay, Wrecsam, lle gwnaeth grant o £1,000 drawsnewid clwb ieuenctid lleol a helpu i greu amgylchedd mwy cadarnhaol i bobl ifanc yn y gymuned.

Yr angen am fwy o gyfleoedd

Bob nos Wener, mae Eglwys y Nasaread yn Llay yn agor ei drysau i bobl ifanc yr ardal leol drwy ei chlwb ieuenctid.

Mae’r clwb yn darparu lle diogel a chroesawgar lle gall plant a phobl ifanc gymdeithasu, gwneud ffrindiau a threulio amser gyda’i gilydd. Fodd bynnag, roedd y tîm yn ffeindio hi’n anodd i ymgysylltu gyda’r bobl ifanc. Roedd y gweithgareddau a’r offer oedd ar gael yn gyfyngedig ac roedd lefelau presenoldeb yn isel, gan roi pwysau ychwanegol ar wirfoddolwyr a’i gwneud yn anoddach darparu’r sesiynau.

Ar yr un pryd, roedd lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc y pentref, gyda llawer o hyn yn deillio o ddiflastod a diffyg gweithgareddau hygyrch.

Roedd yr eglwys yn gwybod pe gallent gynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc dreulio amser gyda’i gilydd mewn ffordd gadarnhaol, roedd yn bosib iddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Buddsoddiad o £1,000 mewn pobl ifanc

Drwy grant o £1,000 gan Gronfa Wrecsam, llwyddodd y clwb ieuenctid i brynu offer newydd, gan gynnwys gemau fideo, bwrdd pwl, gemau bwrdd a llyfrau ar gyfer llyfrgell fenthyca.

Yn hollbwysig, roedd y bobl ifanc eu hunain yn rhan o’r broses o benderfynu pa offer i’w brynu. Drwy ofyn i’r plant beth yr hoffen nhw gan eu clwb ieuenctid, sicrhaodd yr eglwys fod y gofod yn adlewyrchu eu diddordebau ac yn rhoi llais gwirioneddol iddynt wrth lunio gweithgareddau yn eu cymuned.

Mae lefelau presenoldeb ar eu pwynt uchaf erioed, gyda mwy o bobl ifanc yn mynychu’r sesiynau’n rheolaidd ac yn parhau i gymryd rhan yn y clwb. Roedd gwirfoddolwyr yn gallu darparu rhaglen fwy amrywiol a phleserus, a daeth y clwb ieuenctid yn ganolbwynt cymunedol hyd yn oed yn gryfach.

Creu effaith barhaol

Roedd effeithiau’r grant yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gemau ac offer newydd.

Drwy ddarparu lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc dreulio amser gyda’i gilydd, mae’r prosiect wedi helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal leol ac wedi creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc adeiladu cyfeillgarwch, darganfod hobïau a datblygu diddordebau newydd.

Mae’n ein hatgoffa sut y gall symiau cymharol fach o gyllid greu newid sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r buddsoddiad gwreiddiol.

Diolch

Hoffem ddiolch i bawb yn Eglwys y Nasaread yn Llay am eu hymrwymiad i gefnogi pobl ifanc yn Wrecsam ac am sicrhau bod lleisiau plant lleol wrth galon y prosiect hwn.

Hoffem hefyd ddiolch i roddwyr Confa Wrecsam, y mae eu haelioni yn gwneud gwaith fel hyn yn bosibl. Mae pob cyfraniad, pun a’in fawr neu fach, yn helpu i greu cyfleoedd er mwyn i gymunedau ledled Cymru ffynnu.

Weithiau, mae’r grantiau lleiaf yn cael yr effaith fwyaf.

Os hoffech helpu i greu mwy o straeon fel hyn ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs gyda chi. Dysgwch fwy yma.

Stories

Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople

Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople

Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.

“The little things can make all the difference” – Supporting Communities Through the Cost of Living Crisis

“The little things can make all the difference” – Supporting Communities Through the Cost of Living Crisis

Ammanford Food Bank

Celebrating Pride Month and the power of community support in Wales

Celebrating Pride Month and the power of community support in Wales

We’re proud to support many organisations working year-round to improve the lives of LGBTQ+ people across Wales.

How small grants can create life-changing opportunities

How small grants can create life-changing opportunities

When people think about philanthropy, it’s often the large-scale donations and major fundraising campaigns that come to mind. But relatively small amounts of funding can also have a transformative impact on someone’s future.