Mae Tiny Rebel yn ehangu ei effaith gymunedol ledled Cymru

Mae Tiny Rebel yn ehangu ei effaith gymunedol ledled Cymru

Drwy ein Cronfa i Gymru, mae haelioni cymunedol Tiny Rebel bellach yn cyrraedd sefydliadau ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru.

Ar ôl meithrin enw da am gefnogi achosion lleol yng Nghasnewydd drwy Gronfa Gymunedol Tiny Rebel, roedd y bragdy am ehangu cyrhaeddiad ei effaith gymdeithasol, gan adlewyrchu ei ymrwymiad fel busnes B Corp.

Mae cyllid Tiny Rebel eisoes yn helpu sefydliadau i ymateb i anghenion eu cymunedau lleol. Mae’r grantiau cyntaf yn cefnogi prosiectau sy’n gwella mynediad at natur a dysgu yn yr awyr agored, yn helpu pobl i gael gwaith, ac yn creu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc.

Mae panel grantiau ein Cronfa i Gymru yn cyfarfod bob mis, sy’n golygu ein bod yn gallu sicrhau bod cyllid yn cyrraedd cymunedau’n gyflym. O fewn ychydig wythnosau o dderbyn rhodd Tiny Rebel, roedd y grantiau cyntaf eisoes wedi’u dyfarnu, gan helpu sefydliadau lleol i sicrhau bod cyllid yn troi mewn i weithred, heb oedi.

Dywedodd Hayley Morton, Cydlynydd Cydwybod yn Tiny Rebel: “Mae Tiny Rebel wedi ymrwymo i sicrhau datblygiad cymdeithasol cadarnhaol yn ein cymuned leol yn ogystal â chymunedau ymhellach i ffwrdd, ac fel sefydliad rydym yn ceisio bod yn rym gweithredol dros newid er gwell. Rydym yn falch o’n statws B Corp, sy’n cydnabod ein hymrwymiad i ddefnyddio ein busnes fel grym er lles. Lansiwyd Cronfa Gymunedol Tiny Rebel yn 2022 ac, hyd yma, mae wedi rhoi dros £52,000 i brosiectau cymunedol. Roedd partneru â Sefydliad Cymunedol Cymru i ddosbarthu ein cyllid ar gyfer 2026 yn gam naturiol i’r fenter hon, gan fod ein gwerthoedd yn cyd-fynd yn agos, ac mae’r Sefydliad yn gallu mesur effaith ein rhoddion, sy’n bwysig iawn i ni.”

Ymhlith y sefydliadau cyntaf i dderbyn cyllid mae:

Waun Capel Woodland & River Wye Community Activities (Rhaeadr Gwy), sy’n cynnal rhaglen blwyddyn o hyd o weithgareddau coetir ac ar lan yr afon i blant a theuluoedd. Mae’r prosiect yn helpu pobl i gysylltu â natur, dysgu sgiliau ymarferol, lleihau unigrwydd a meithrin ymdeimlad cryfach o falchder yn eu hamgylchedd lleol.

Working Wardrobe (Casnewydd), sy’n darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i bobl sy’n profi digartrefedd neu ansicrwydd ac sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant adeiladu a chyfleoedd profiad gwaith, gan helpu i gael gwared ar rwystrau ymarferol i gyflogaeth a datblygu sgiliau.

Parc Coed Moch CIC (Bethesda), sy’n parhau â’i rhaglen ysgol goedwig boblogaidd dros wyliau’r haf, gan ddarparu gofal plant fforddiadwy ochr yn ochr â phrofiadau dysgu yn yr awyr agored sy’n helpu i feithrin hyder, lles a chysylltiadau cymdeithasol i blant.

Dywedodd Katy Hales, Cyfarwyddwr Dyngarwch yn Sefydliad Cymunedol Cymru: “Mae gan Tiny Rebel hanes hir o gefnogi cymunedau, ac mae’n wych gweld y gefnogaeth honno bellach yn cyrraedd hyd yn oed mwy o bobl ledled Cymru. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda’r tîm i ddeall yr hyn yr oeddent am ei gyflawni a llunio dull sy’n adlewyrchu eu gwerthoedd. Mae pob busnes yn wahanol, ac un o gryfderau gweithio gyda ni yw ein bod yn gallu teilwra cyllid i adlewyrchu’r hyn sy’n bwysicaf iddynt, gan helpu i gysylltu eu haelioni â’r achosion y maent am eu cefnogi.”

Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn dangos sut y gall haelioni helpu sefydliadau lleol i ymateb i anghenion eu cymunedau, gan gysylltu busnesau hael â’r bobl a’r lleoedd y maent am eu cefnogi.

News

View all
Funding awarded to 13 community groups across Gwent to support young people

Funding awarded to 13 community groups across Gwent to support young people

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

We’ve launched our new Grants Hub!

We’ve launched our new Grants Hub!