Darparu dyfodol gwell gyda Made by Sport – lansio cronfa ‘Clybiau mewn Argyfwng’

 

Rydyn ni’n falch o fod wedi ymuno â Made by Sport i roi cyfle i grwpiau cymunedol lleol, sefydliadau’r trydydd sector a chlybiau chwaraeon lleol ymgeisio am grant sy’n gallu helpu pobl ifanc drwy gyfrwng chwaraeon wrth iddyn nhw ddechrau adfer o effeithiau’r cyfnod clo diwethaf

Mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio llawer iawn ar bobl ifanc ledled y DU a, diolch i Made by Sport, fe allwn ni gynnig y cyfle hwn i sefydliadau cymunedol a chlybiau chwaraeon gael arian hanfodol a fydd yn gallu eu helpu i ddal i ddod â chwaraeon i fywydau pobl ifanc.

Byddwn yn gweinyddu’r gronfa ar ran Made by Sport ac yn dyfarnu grantiau diamod o £2,021 i glybiau sy’n cyfarfod â’r meini prawf. Mae’r gronfa’n gwahodd ceisiadau gan glybiau a sefydliadau cymunedol sy’n defnyddio chwaraeon i wella bywydau pobl ifanc drwy un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Datblygu sgiliau bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryf
  • Gwella iechyd meddwl
  • Datblygu sgiliau i gael gwaith
  • Lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Elusen yw Made by Sport sy’n codi ymwybyddiaeth o rym chwaraeon ac yn ariannu sefydliadau sy’n defnyddio chwaraeon i gefnogi pobl ifanc ar draws y DU. Mae’r gronfa ‘Clybiau mewn Argyfwng’ yn rhan o ymgyrch ehangach sy’n credu mai chwaraeon yw’r ffordd orau o greu newid mewn cymdeithas ar draws y myrdd o heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn y byd modern.

Bydd y gronfa ar agor i geisiadau ddydd Llun 12 Ebrill a bydd y meini prawf llawn yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir ond hanfod y gronfa yw ei bod yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol a chlybiau chwaraeon sydd, yn fwriadol, yn defnyddio darpariaeth chwaraeon cymunedol i gael canlyniadau cymdeithasol ehangach, fel yn yr enghreifftiau a restrir uchod, ac nid ar y rhai sy’n canolbwyntio ar ddatblygu ac ehangu cyfleoedd i gymryd rhan.

Mae’r holl wybodaeth y byddwch ei angen ynghylch ariannu cyn i chi ymgeisio ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin hon.

Nodyn i ymgeiswyr: Mae Made by Sport yn cynnig y cyfle hwn diolch i gefnogaeth gan y cynllun Cash4Clubs. Mae’r cynllun Cash4Clubs yn cael ei ariannu gan Flutter Entertainment Ltd. Y cyfraniad a wnaed gan Fluter yw’r swm a gafodd o ganlyniad i ryddhad ar drethi busnes a oedd ar gael i siopau yn Lloegr rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2021. Dylai ymgeiswyr ystyried hyn cyn ymgeisio am arian.

 

News

Gweld y cyfan
Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Anrhydeddu sêr Hollywood a dyngarwr lleol am eu cyfraniadau eithriadol i gymunedau Gogledd Cymru

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Y galon mor bwysig a’r meddwl wrth greu ymddiriedolwyr ymroddedig

Pam mae eich stori yn bwysig

Pam mae eich stori yn bwysig

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…

Gymaint mwy na jest adroddiad arall…