Rhodd sy’n para y tu hwnt i’ch oes

Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys yn ffordd ystyrlon o helpu’r cymunedau a’r achosion sy’n bwysig i chi i barhau i elwa o’ch haelioni ymhell i’r dyfodol. P’un a ydych chi’n cynllunio’ch Ewyllys am y tro cyntaf neu’n diweddaru un sy’n bodoli eisoes, byddwn ni’n eich helpu i greu gwaddol sy’n adlewyrchu eich gwerthoedd a’ch dymuniadau. 

 

Pam gadael rhodd drwy Sefydliad Cymunedol Cymru?

Mae rhodd yn eich Ewyllys drwy Sefydliad Cymunedol Cymru yn rhoi’r hyblygrwydd i chi gefnogi’r bobl, y lleoedd a’r achosion sydd bwysicaf i chi.

Yn hytrach na chefnogi un elusen, gall eich rhodd barhau i ymateb i anghenion newidiol cymunedau lleol ar lawr gwlad. Os oes gennych chi le, achos neu gymuned benodol mewn golwg, byddwn ni’n gweithio gyda chi i sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu hadlewyrchu.

Pam mae cael Ewyllys yn bwysig

Mae cael Ewyllys gyfredol yn un o’r ffyrdd pwysicaf o sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu cyflawni ac y gofelir am y bobl a’r achosion sy’n bwysig i chi.

Os ydych chi’n ystyried gadael rhodd i elusen, rydym yn argymell siarad â chyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol. Rydym yn gweithio’n rheolaidd ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cyfreithiol ac ariannol i helpu pobl i greu gwaddol sy’n adlewyrchu eu gwerthoedd a’u dymuniadau, gan roi hyder i chi y bydd eich bwriadau’n cael eu cyflawni yn y modd yr oeddech wedi bwriadu.

 

Rhoi effeithlon o ran treth

Gall gadael rhodd i elusen yn eich Ewyllys hefyd fod yn ffordd o roi sy’n effeithlon o ran treth. Mae rhoddion i elusen wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant, ac mewn rhai amgylchiadau, gall gadael o leiaf 10% o’ch ystâd net i elusen leihau cyfradd y Dreth Etifeddiant a delir ar weddill eich ystâd.

Gan fod pob ystâd yn wahanol, mae’n bwysig ceisio cyngor cyfreithiol neu ariannol annibynnol. Gallwn ddarparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar eich cynghorydd ynglŷn â gadael rhodd i Sefydliad Cymunedol Cymru, gan helpu i wneud y broses mor syml â phosibl.

Gadewch rodd yn eich Ewyllys

Eich Etifeddiaeth i Gymru

Eich Etifeddiaeth i Gymru

Y gwahaniaeth y gall rhodd ei wneud

Crëwyd Cronfa Brian Rees er cof am Brian Rees OBE, yr oedd ei deulu am anrhydeddu ei angerdd dros addysg drwy helpu person ifanc i gyflawni ei uchelgais o astudio meddygaeth. Dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i Daniella Nakazzi, gan droi’r weledigaeth honno’n realiti a’i galluogi i ddilyn ei breuddwyd o fod yn feddyg.

“Heb y fwrsariaeth hon, byddai astudio meddygaeth wedi bod yn anodd iawn i mi, ond mae’r gronfa hon wedi fy sbarduno i barhau i ymgysylltu’n llawn â’m hastudiaethau. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i gael y cyfleoedd hyn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i Sefydliad Cymunedol Cymru am ei rôl yn fy nghefnogi ar y daith hon. Mae’r gefnogaeth hon wedi gwneud gwahaniaeth sydd wedi newid fy mywyd, ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi elwa o’r fath haelioni ac anogaeth.” 

– Daniella Nakazzi, Myfyrwraig

Darllenwch ragor am stori Daniella
Gadewch rodd yn eich Ewyllys

Mae pob rhodd yn dechrau gyda sgwrs

P'un a ydych chi'n barod i adael rhodd yn eich Ewyllys neu'n archwilio'ch opsiynau yn unig, rydym yma i helpu. Gyda'n gilydd, byddwn yn creu rhodd sy'n adlewyrchu'r hyn sydd bwysicaf i chi a'r cymunedau rydych chi am eu cefnogi 

Enw
Lawrlwythwch ein canllaw i'r cronfeydd
Gadewch rodd yn eich Ewyllys

Am gael gwybod rhagor?

Darllenwch ein cyfweliad gyda Catrin Wigley, Partner yn y Tîm Cynllunio Ystadau yn Hugh James, wrth iddi rannu mewnwelediadau arbenigol i Ewyllysiau, cynllunio ystadau a gadael rhodd elusennol.

Gadael rhodd barhaol