162
Sefydliadau a gefnogwyd
Dim ond rhan o’r hyn sy’n bosib yw’r hyn y mae Cronfa i Gymru wedi’i gyflawni ers ei lansio yn 2012. Drwy gydweithio â’r bobl a’r sefydliadau sy’n gofalu am eu cymunedau, gallwn dyfu’r Gronfa ac ymestyn ei chyrhaeddiad ymhellach fyth.
Mae Cronfa i Gymru yn eich galluogi i ganolbwyntio’ch haelioni ar yr achosion, y lleoedd a’r cymunedau sy’n golygu fwyaf i chi. Efallai eich bod am greu cyfleoedd i bobl ifanc, gwella iechyd a llesiant, diogelu’r amgylchedd, cryfhau treftadaeth a diwylliant Cymru, neu gefnogi cymuned benodol.
Mae Cronfa i Gymru yn ymwneud ag adeiladu rhywbeth ar y cyd. Mae pob unigolyn a sefydliad sy’n cyfrannu yn dod yn rhan o’i stori, gan helpu tyfu cronfa sy’n gallu cyrraedd mwy o gymunedau a gwneud mwy o wahaniaeth.
Mae eich haelioni yn rhan o bob grant a ddyfernir, gan helpu sefydliadau lleol i gyrraedd miloedd o bobl a chryfhau’r cymunedau a’r lleoedd sy’n gartref iddyn nhw.
Does dim rhaid sefydlu eich cronfa eich hun i sicrhau bod eich haelioni’n bersonol. P’un a oes lle sy’n agos at eich calon, achos rydych chi’n angerddol drosto, neu nod y mae eich sefydliad am ei gyflawni, byddwn yn gweithio gyda chi i lunio ffordd o roi sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i chi. Wrth wneud hynny, byddwch yn elwa ar ein profiad helaeth o weithio gyda rhoddwyr ledled Cymru.
Gall eich cyfraniad ddod yn rhan o rywbeth sy’n para. Drwy ychwanegu eich rhodd at gronfa sefydledig sy’n cael ei buddsoddi’n gyfrifol gan Sefydliad Cymunedol Cymru, mae ganddi’r potensial i dyfu dros amser, gan greu ffynhonnell barhaus o gyllid i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad.
Rydyn ni’n gwybod mai’r bobl sydd agosaf at eu cymuned sy’n aml yn ei deall orau. Mae ein perthynas hir sefydlog â sefydliadau ar lawr gwlad, ynghyd â’n profiad o ddyfarnu grantiau, yn golygu ein bod yn deall beth sy’n digwydd yn lleol a lle gall cyllid wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae rhoi drwy Gronfa i Gymru yn llawer mwy na gwneud cyfraniad. Rydyn ni’n gofalu am y diwydrwydd dyladwy, y gwaith gweinyddol a’r broses grantiau, ac yn gallu gweithio gyda chi i rannu adroddiadau wedi’u teilwra, straeon am yr effaith, a chyfleoedd i ymweld â’r prosiectau rydych chi’n eu cefnogi. Mae hynny’n eich helpu i weld a deall y gwahaniaeth y mae eich haelioni yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.
Sefydliadau a gefnogwyd
Wedi'i ddyfarnu i grwpiau ledled Cymru
Awdurdodau lleol a gyrhaeddwyd
Mae Cronfa i Gymru wedi’i llunio dros y blynyddoedd gan haelioni nifer o bobl a sefydliadau. Sefydlwyd y Gronfa drwy ymgyrch ariannu cyfatebol y Loteri Genedlaethol, gyda chyfraniadau cynnar gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Waterloo a nifer o roddwyr unigol. Helpodd y cyfraniadau hyn i roi sylfaen gadarn i’r Gronfa ac i’w siapio hyn heddiw.
Mae’r haelioni hwnnw’n parhau heddiw. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’n rhoddwyr unigol ac i fusnesau Cymru, gan gynnwys Tiny Rebel a Goodwash, yn ogystal â chefnogaeth barhaus y Postcode Lottery.

Y tu ôl i bob grant mae sefydliad lleol sy’n ymateb i anghenion ei gymuned.
Mae O Bethau Bychain yn rhannu straeon gan sefydliadau sydd wedi derbyn cefnogaeth drwy Gronfa i Gymru, gan ddangos amrywiaeth y prosiectau a’r gwahaniaeth y gall y cymorth cywir ei wneud ar yr adeg iawn.
Darllenwch O Bethau Bychain
Cysylltwch â’n tîm haelioni