Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn bont gadarn rhwng y bobl sy'n dymuno rhoi a'r cymunedau sy'n bwysig iddyn nhw.

Mae ein brand yn adlewyrchu pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei gynrychioli a'r rôl rydyn ni'n ei chwarae wrth helpu haelioni i greu daioni ledled Cymru. Mae'n dod â'n hunaniaeth weledol, ein negeseuon a'n gwerthoedd ynghyd, gan ein helpu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â'r bobl a'r cymunedau rydyn ni'n gweithio gyda nhw.

Wedi’i ysbrydoli gan bobl, lleoedd a thirwedd Cymru, mae ein hunaniaeth weledol yn adlewyrchu’r cysylltiadau sydd wrth galon Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r symbol ‘M’ nodedig yn cynrychioli’r perthnasoedd rhwng rhoddwyr, partneriaid a chymunedau, tra bod ein lliwiau a’n teipograffeg wedi’u dewis yn ofalus i greu brand sy’n groesawgar, yn hygyrch ac wedi’i wreiddio yng Nghymru.

Lawrlwytho ein logos

Lawrlwythwch logos ffurfiol Sefydliad Cymunedol Cymru i'w defnyddio mewn cyhoeddusrwydd, partneriaethau a'r cyfryngau.

Ein brand

Sut i hyrwyddo eich grant

Os ydych wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Cymunedol Cymru, byddwch yn cael ein canllaw ‘sut i hyrwyddo eich grant’, sy’n cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio ein logo a chydnabod eich cyllid yn briodol. Os nad ydych wedi derbyn copi o’r canllaw hyn, e-bostiwch grants@communityfoundationwales.org.uk os gwelwch yn dda.

Defnyddio ein brand

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddefnyddio ein logos neu deunyddiau ein brand, cysylltwch â ni. Gallwn hefyd ddarparu rhagor o wybodaeth am ein brand a’n hunaniaeth weledol, gan gynnwys ein canllawiau brand.

 

Cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu a Marchnata yma
Ein brand
Ein brand

Cwestiynau Cyffredin am y Brand

Gallwch ddysgu mwy am ein brand newydd, y stori y tu ôl iddo, yn ogystal â dod o hyd i atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych amdano drwy glicio ar y ddolen isod a darllen ein Cwestiynau Cyffredin am y Brand.