Lles
Gweithio hyblyg a hybrid, cyfleoedd i ddysgu a datblygu, a dau ddiwrnod o wirfoddoli wedi' dalu bob blwyddyn.
Rydyn ni’n bont gadarn rhwng pobl sy’n dymuno rhoi a’r cymunedau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein gwaith yn adeiladu ar hanes hir o roi yng Nghymru i wneud yn siŵr bod haelioni’n arwain at gymorth ystyrlon a pharhaol.
Rydym yn sefydliad sy’n cael ei arwain gan werthoedd, ac mae’r gwerthoedd hynny’n llywio’r ffordd rydym yn gweithio bob dydd – o’r ffordd rydym yn cefnogi ein gilydd i’r ffordd rydym yn meithrin perthnasoedd â rhoddwyr, partneriaid a chymunedau ledled Cymru.
P’un a ydych yn ymuno â ni fel cydweithiwr neu’n gwirfoddoli eich amser, byddwch yn rhan o dîm bach, cefnogol sy’n poeni’n fawr am wneud gwahaniaeth.
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith hyblyg gyda ffocws cryf ar les, datblygiad a chydbwysedd. Gallwch ddarganfod mwy amdanom ni isod.
Gweithio hyblyg a hybrid, cyfleoedd i ddysgu a datblygu, a dau ddiwrnod o wirfoddoli wedi' dalu bob blwyddyn.
25 diwrnod o wyliau blynyddol â gwyliau banc, cau dros Nadolig a diwrnod i ffwrdd ar eich pen-blwydd, gwyliau gwasanaeth hir, cynllun beicio i’r gwaith, profion llygaid a chymorth drwy Health Assured.
Pensiwn cystadleuol, adolygiad cyflog blynyddol, gwyliau teulu estynedig, a rhaglen cymorth i chi a’ch teulu.
