Gall rhodd yn eich Ewyllys wneud gwahaniaeth i Gymru a’ch cymuned?
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio gadael rhywbeth ar ein hôl sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysicaf i ni. I lawer o bobl, mae hynny’n cynnwys cefnogi’r achosion, y cymunedau a’r lleoedd sydd wedi llywio eu bywydau.
Bob blwyddyn, mae miliynau o bunnoedd yn cael eu gadael i elusennau drwy roddion mewn Ewyllysiau. Mae’r rhoddion hyn yn helpu i ariannu gwaith sy’n newid bywydau, gan gefnogi popeth o brosiectau cymunedol ac ymchwil feddygol i wasanaethau brys, chwaraeon a chyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol.
Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai cymharol ychydig o gyllid etifeddiaeth sy’n cyrraedd elusennau Cymru ar hyn o bryd. Bob blwyddyn, mae elusennau Cymru yn derbyn amcangyfrif o £33 miliwn drwy roddion mewn Ewyllysiau. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyfran Cymru o boblogaeth y DU, gallai’r ffigur hwn fod yn nes at £225 miliwn. Mae hynny’n golygu bron i £200 miliwn a allai fod yn helpu elusennau Cymru i gefnogi pobl a chymunedau ledled y wlad.
Dyna pam rydym wedi ymuno â Cancer Research Wales, Cymru Football Foundation ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i lansio Yma am Byth | Here for Good.
Helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus
Nid yw Yma am Byth | Here for Good yn dweud wrth bobl ble y dylent adael eu harian. Mae’n ymwneud â sicrhau bod gan bobl y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud y dewis sy’n iawn iddyn nhw. I rai, gall hynny olygu cefnogi elusen sydd wedi eu helpu nhw neu rywun annwyl iddynt. I eraill, gall olygu rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned leol, cefnogi achos y maent yn angerddol amdano, neu helpu cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru. Beth bynnag yw eich blaenoriaethau, gall deall yr opsiynau sydd ar gael helpu i sicrhau bod eich Ewyllys yn adlewyrchu’r effaith yr hoffech ei chael.
Pam mae rhoddion yn eich Ewyllys yn bwysig
Gall rhodd yn eich Ewyllys barhau i gefnogi’r achosion sy’n bwysig i chi ymhell i’r dyfodol. Mae’r rhoddion hyn yn helpu elusennau i gynllunio ymlaen llaw, ymateb i anghenion sy’n newid a buddsoddi mewn gwaith sy’n creu newid parhaol. Yn Sefydliad Cymunedol Cymru, mae rhoddion yn eich Ewyllys yn ein helpu i gefnogi grwpiau ar llawr gwlad a chymunedau lleol ledled Cymru, gan gyfeirio cyllid i’r mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf. Waeth beth fo maint y rhodd, gall rhoddion chwarae rhan bwysig wrth gryfhau cymunedau a chefnogi’r bobl a’r lleoedd sy’n bwysig i ni.
Gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol
Rydym hefyd yn annog cyfreithwyr, ysgrifenwyr Ewyllysiau a chynghorwyr ariannol ledled Cymru i ymuno â’r sgwrs. Mae gan gynghorwyr proffesiynol rôl hanfodol wrth helpu pobl i archwilio eu hopsiynau a sicrhau bod eu dymuniadau’n cael eu hadlewyrchu’n glir yn eu Hewyllysiau. Drwy Yma am Byth | Here for Good, rydym yn gweithio gyda chynghorwyr i godi ymwybyddiaeth o roi drwy etifeddiaeth a helpu mwy o bobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Gadewch eich marc ar Gymru
Mae eich etifeddiaeth yn bersonol. Mae’n adlewyrchiad o’ch gwerthoedd, eich profiadau a’r gwahaniaeth yr hoffech ei wneud. P’un a yw hynny’n golygu cefnogi cymuned leol, achos penodol neu Gymru gyfan, gall rhodd yn eich Ewyllys helpu i greu effaith barhaol ar gyfer y dyfodol.