Creu cyfleoedd drwy’r theatr: sut mae Cronfa i Gymru yn cefnogi Papertrail
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae'r sefydliad wedi parhau â'i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a'r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.
Gall perfformiad theatr bara ychydig oriau, a gall gweithdy gymryd un diwrnod yn unig. Ond gall effaith cyfleoedd creadigol bara am flynyddoedd. Dyna’n union mae Papertrail wedi’i weld dros y flwyddyn ddiwethaf.
Diolch i grant o £2,000 gan Cronfa i Gymru, a ariannwyd gan chwaraewyr Postcode Lottery, mae’r sefydliad wedi parhau â’i waith o greu cyfleoedd i artistiaid Byddar, anabl a’r rhai sydd heb gael cynrychiolaeth ddigonol, gan helpu i wneud theatr yn fwy hygyrch ledled Cymru.
Cyfrannodd y cyllid at gostau craidd y sefydliad, gan helpu Papertrail i gryfhau ei gapasiti a pharhau i gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o waith creadigol.
Ymhlith ei lwyddiannau roedd Creative Stages, rhaglen beilot arloesol a ddaeth â dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chyfarwyddwyr theatr ynghyd i archwilio ffyrdd mwy cynhwysol o greu theatr. Cymerodd deunaw o bobl ran yn yr hyfforddiant, gyda llawer yn nodi eu bod wedi magu mwy o hyder, datblygu cysylltiadau proffesiynol newydd a sgiliau ymarferol i’w defnyddio yn eu gwaith yn y dyfodol.
Dywedodd un cyfranogwr fod y profiad wedi newid ei fywyd, gan egluro ei fod wedi gwneud iddo deimlo’n fwy hyderus wrth ymgorffori hygyrchedd creadigol yn ei waith ac wrth eirioli dros gymunedau Byddar.
Yn ogystal â hyn, aeth cynhyrchiad hygyrch Papertrail, ‘A Visit’, ar daith i leoliadau ledled Cymru. Roedd y perfformiadau’n hynod boblogaidd, ac roedd trafodaethau ar ôl y sioe a gweithdai addysgol yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol drafod materion pwysig yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.
Parhaodd y sefydliad hefyd â’i Raglen Artistiaid Cyswllt, gan gefnogi artistiaid o Gymru drwy fentora, datblygiad proffesiynol a’r cyfle i arbrofi’n greadigol. I lawer, roedd y cyfle i ddatblygu syniadau heb y pwysau uniongyrchol o gynhyrchu gwaith yn amhrisiadwy.
Myfyriodd un artist ar ba mor unig y gall gweithio’n llawrydd deimlo ar adegau, gan bwysleisio pa mor werthfawr oedd teimlo’n gysylltiedig â sefydliad oedd yn cefnogi ei ddatblygiad.
Bu’r grant hefyd yn cefnogi cerrig milltir bwysig i’r sefydliad, gan gynnwys sicrhau statws elusen gofrestredig a chryfhau llywodraethu, gwaith codi arian a chynaliadwyedd hirdymor.
Wrth edrych ymlaen, mae Papertrail yn bwriadu ehangu Creative Stages, datblygu cynyrchiadau newydd a pharhau i greu cyfleoedd i artistiaid sydd wedi wynebu rhwystrau i gael eu cynrychioli yn y celfyddydau
Drwy gefnogi sefydliadau fel Papertrail, mae Cronfa i Gymru yn helpu i sicrhau bod creadigrwydd, talent a gwybodaeth gymunedol yn gallu ffynnu ledled Cymru. Rydyn ni’n falch o greu daioni drwy haelioni.
Stories
Buddsoddi mewn pobl, sgiliau a threftadaeth: cefnogi’r genhedlaeth nesaf o grefftwyr Cymreig
Cafodd tri unigolyn o Gymru bwrsariaethau i ddatblygu sgiliau arbenigol mewn gwaith gof, melino hetiau, a gwaith coed, sy’n helpu i ddiogelu traddodiadau crefft, gan hefyd agor drysau newydd i bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i hyfforddiant a chyflogaeth.