Ami
Swyddog Grantiau
Fy nghefndir
Datblygais ddiddordeb yng ngwaith y trydydd sector wrth astudio am radd mewn Busnes a Rheolaeth. Arweiniodd hyn at yrfa ym maes codi arian gyda ymddiriedolaethau a sefydliadau grant, lle cefais brofiad o gefnogi prosiectau oedd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu cymunedau. Bellach, rydw i’n dod â’r profiad hwnnw i’m rôl fel Swyddog Grantiau yn Sefydliad Cymunedol Cymru.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fel Swyddog Grantiau, dwi’n cefnogi’r broses o ddyfarnu grantiau, gan helpu i sicrhau bod cyllid yn cyrraedd y sefydliadau a’r grwpiau cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru. Dwi’n mwynhau bod yn rhan o dîm sy’n helpu i gryfhau cymunedau a chefnogi’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws y wlad.
Holwch fi ynghylch...
Geisiadau grant newydd, grantiau sydd eisoes wedi’u dyfarnu, a sut y gall ein tîm eich cefnogi gyda’r ddau. Dwi bob amser yn hapus i helpu gydag unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, gofynion grantiau neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â chyllid.
Pam rwy'n caru Cymru
Dwi’n hynod o falch o’r ymdeimlad o gymuned sydd mor gryf ledled Cymru. Dwi wrth fy modd yn gweld pobl yn dod ynghyd, yn cefnogi ei gilydd ac yn gwneud i bethau ddigwydd. Mae rhywbeth arbennig iawn am yr ysbryd cymunedol hwnnw, a dwi’n ffodus o weithio i sefydliad sy’n helpu i’w feithrin a’i gefnogi.