Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd

Casnewydd,

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae'r gronfa hon yn cau ar 17 Mehefin 2024 am 12pm (canolddydd).

Mae Cronfa Waddol Cymunedol Casnewydd, sydd yn cael ei reoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad
Cymunedol Cymru, yn ymabrel o gronfeydd sy’n ymroddedig i wella addysgu a chryfhau cymunedau ledled Sir Casnewydd, sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos yr effeithiau cadarnhaol y byddant yn eu cael ar y bobl sy’n byw yn y gymunedau hyn a sut maent yn cwrdd ag amcanion y rhaglen a restrir isod. Sef, annog, cefnogi a hyrwyddo cyrhaeddiad addysgol anstatudol a dysgu gydol oes gan gynnwys blynyddoedd cynnar, ac i wella iechyd a lles i gryfhau perthnasoedd ac adeiladu cydlyniant cymunedol.

Rhaid i’r prosiect gyrraed o leiaf un o’r themau canlynol:

  • prosiectau sy’n cefnogi rhieni ifanc
  • prosiectau sy’n cefnogi datblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar
  • prosiectau ysgol sy’n cefnogi datblygiad plant gan gynnwys iechyd a byw’n iach
  • prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu drwy oes
  • prosiectau sy’n hyrwyddo cymunedau cynhwysol a saff
  • prosiectau ieuenctid i annog gwelliant iechyd a lles
  • prosiectau sy’n lleihau unigrwydd hen bob

Grantiau ar gael

Nod allweddol y gronfa yw annog a chefnogi addysg a gweithgaredd cymunedol ar lawr gwlad yng Nghasnewydd. Gellir ymgeisio am grant o £200 – £2,000 y flwyddyn ar gyfer gweithgareddau, mân wariant cyfalaf, neu tuag at gostau craidd.

Pwy all wneud cais?

  • Grwpiau yn y gymuned ac a reolir yn lleol sy’n annog gwirfoddolwyr, Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon, neu ysgolion ar gyfer prosiectau/mentrau a ddaw y tu allan i ddarpariaeth statudol (ee clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast, prosiectau garddio, ac yn y blaen).

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein
  • llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion
    cymorth ychwanegol
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd
Cronfa Waddol Gymunedol Casnewydd

Helpu plant a phobl ifanc i ddelio â’u galar

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa True Venture

Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg