Cronfa i Gymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau
Mae Cronfa i Gymru yn gronfa gwaddol gymunedol genedlaethol, sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Mae’n rhaglen hybu dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd am ‘roi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae’r Gronfa i Gymru yn cysylltu pobl sy’n poeni ac achosion pwysig.
Mae’r gronfa ar hyn o bryd yn cael ei chefnogi drwy bartneriaeth gyda People’s Postcode Lottery.
Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.
Canlyniadau’r Gronfa:
- Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd,
- Adeiladu cymunedau cryfach,
- Gwella amgylcheddau gwledig a threfol,
- Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol, a
- Gwarchod treftadaeth a diwylliant.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau rhwng £500 a £2,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd, ar gael i sefydliadau y mae eu ceisiadau’n cyflawni orau yn erbyn y canlyniadau uchod.
Pwy all wneud cais?
Mae Cronfa i Gymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, dan arweiniad y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000 yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Rydym yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau nad ydynt erioed wedi derbyn arian o’r Gronfa hon o’r blaen.
Mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:
- Grwpiau gyda chyfansoddiad
- Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
- Cwmni cyfyngedig gan warant
- Cwmnïau buddiannau cymunedol
- Mentrau cymdeithasol
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan.
Sylwer:
- Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
- Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
- Os dyfernir grant aml-flwyddyn, rhaid gwario’r flwyddyn gyntaf o grant o fewn blwyddyn i dderbyn ein llythyr cynnig.
- Mae angen i fuddiolwyr grŵp fyw yng Nghymru.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cliciwch ymaTrawsnewid bywydau ifanc
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: