Gweithdai grantiau

Bydd y gweithdai hyn yn eich arwain trwy’r hyn sydd ei angen arnoch i wneud cais am grantiau gan Sefydliad Cymunedol Cymru a’r hyn sy’n gwneud cais da.

Bydd y gweminar hwn yn edrych ar yr elfennau canlynol o gais grant da.

  • Dogfennau ategol y bydd angen i chi eu hatodi i’ch cais
  • Meini prawf cymhwyster
  • Beth sy’n gwneud cais grant da
  • Pa gefnogaeth sydd ar gael

Cwrdd â’r ariannwr: Cronfa Budd Cymunedol CCS Bae Lerpwl

Ymunwch â ni i ddysgu mwy am Gronfa Budd Cymunedol CCS Bae Lerpwl, rhaglen fuddsoddi hirdymor a sefydlwyd gan Liverpool Bay CCS Limited (LBCCS) i gefnogi cymunedau sy’n cynnal seilwaith Dal a Storio Carbon Bae Lerpwl. Wedi’i chyflwyno mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Swydd Gaer a Sefydliad Cymunedol Cymru, nod y gronfa yw creu manteision ystyrlon a pharhaol i gymunedau lleol i gydnabod eu rôl wrth gefnogi seilwaith arwyddocaol cenedlaethol.

Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r gronfa, pwy all wneud cais, y mathau o brosiectau y mae’n eu cefnogi, a chanllawiau ymarferol ar ddatblygu cais cryf.

I archebu eich lle am ddim ar un o’r sesiynau hyn, cliciwch ar y dolenni isod:

 

Cofrestrwch i glywed am ein gweithdai yn gyntaf!

Llenwch y ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb mewn gweithdai sydd ar y gweill.