CAERedigrwydd
Dinas Caerdydd, a I gyd
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae cronfa CAERedigrwydd yn bartneriaeth rhwng Sefydliad Cymunedol Cymru, Big Issue, FOR Cardiff BID, Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Y Wallich, Huggard a Cymru Well Wales.
Gall y Gronfa gefnogi sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau arbenigol i weithio gydag unigolion sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. I rhoi cymorth i helpu unigolion, drwy sefydliadau/elusennau cyfrifol y trydydd sector, i:
- Leihau y nifer o unigolion sydd yn ddigartref yng nghanol y ddinas drwy ymyrraeth amserol.
- Wneud newidiadau i atal digartrefedd ag achosion perthnasol neu sy’n arwain at bod yn ddigartref.
- Gynyddu sgiliau cyflogaeth unigolion drwy gyflawni eu nodau addysg, hyfforddiant a gyrfa.
- Wella eu rheolaeth ariannol.
- Helpu iddynt ymgartrefu yn eu cymunedau drwy ymgysylltu’n llawn a chadarnharol a chymdeithas.
Y grantiau sydd ar gael
Gall sefydliadau ymgeisio am am grantiau I fynny at £750 ar gyfer uniogolion.
Dyma rai enghreifftiau o’r pethau gallem ariannu:
– Dilliad addas ar gyfer cyfweliadau neu swydd.
– Prynu beic newydd i deithio i swydd newydd.
– Arian i dalu am hyfforddiant neu gwrs.
– Pasbort ar gyfer teithio i weld teulu sydd wedi’i
wahardd.
– Dodrefn/eitemau i’r cartref ar gyfer rhai symud i
mewn i denantiaeth am y tro cyntaf o fod yn cysgu
ar y stryd.
– Aelodaeth i’r gampfa neu dilliad addas ar gyfer
ymarfer corff ar gyfer rhywyn sydd eisiau gwella ei
iechyd.
– Costiau cwnsela
– Gwersi gyrru
– Deunyddiau/Offer gwaith.
Pwy all wneud cais?
Gyda ffocws ar atal, mi fydd 10% o’r gronfa yn cael ei gadw ar gyfer sefydliadau sy’n mynd I’r afael a Phrofiadau Plentyndod Gwrthwydebus (ACEs) er mwyn arbeb y genhedlaeth nesa rhag ddigartrefedd a chardota ar y stryd.
Sut i wneud cais?
Ar hyn o bryd, mae’r gronfa yn tyfu o ganlyniad i roddion hael gan y cyhoedd sy’n ein galluogi i ddyrannu mwy o grantiau.
Bydd angen i sefydliadau gofrestru gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru yn cyn gwneud cais ar gyfer unigolion. Gellir gwneud hyn drwy gwblhau ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho o’n gwefan.
Noder:
- Dim ond unwaith y bydd angen i sefydliad gyflwyno ffurflen gofrestru.
- Yna, gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflwyno ffurflen gais ar-lein ar ran unigolyn.
- Caiff ceisiadau ar gyfer llai na £250 eu prosesu mewn 5 diwrnod gwaith. Bydd ceisiadau dros y trothwy hwnnw yn cymryd 10 diwrnod gwaith.
- Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais.

Symud o hostel digartref i fyd busnes
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: