Cronfa Anabledd

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon ar gau i geisiadau ar hyn o bryd.  Byddwn hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i'n Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Os ydych angen cymorth pellach i lenwir ffurflen gais, archebwch alwad gyda swyddog grantiau a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer

Diolch i’r holl fudiadau a atebodd yr arolwg i’n galluogi i greu’r meini prawf ar sail yr anghenion presennol a’r heriau mae sefydliadau anabledd yn eu hwynebu.

Bydd y Gronfa Anabledd yn darparu cefnogaeth i sefydliadau a grwpiau sy’n rhoi cymorth i bobl sy’n byw ag anableddau yng Nghymru. Mae’n bwysig i ni fod y gronfa hon yn cael ei llywio gan bobl anabl a’u hanghenion, felly mae’r meini prawf hwn wedi cael eu llywio gan sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw ag anableddau.

*Noder* Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn defnyddio’r diffiniad o anabledd a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. “Diffinnir person anabl fel rhywun sydd â nam corfforol neu feddyliol sy’n effeithio’n ‘sylweddol’ ar ei allu i gyflawni gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd dros yr ‘hirdymor’”

 

Bydd y Gronfa Anabledd yn rhoi cefnogaeth i sefydliadau/prosiectau sydd:

  • Yn rhoi cymorth emosiynol a llesiant
  • Yn prynu cyfarpar ar gyfer anabledd buddiolwyr. Mae angen i’r cyfarpar hwn fod yn ychwanegol i’r hyn y mae’r GIG ei ddarparu. Argymhellir eich bod yn nodi enghreifftiau o’r mathau o gyfarpar sydd ei angen ar eich buddiolwyr ar y ffurflen gais.
  • Anghenion gofal ychwanegol i wella ansawdd bywyd, cyflogaeth a/neu annibyniaeth

Byddwn ni’n blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai sy’n cael eu gwasanaethu neu’n fregus o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyllid Costau Craidd ac Aml-flwyddyn ar gael

Yn 2020, cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru eu canfyddiadau ar ddarn o waith ymchwil a gafodd ei gynnal gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ledled Cymru.  Roedd ein hadroddiad Uchel ac yn Groch yn tynnu sylw at y ffaith fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau cyllidwyr i flaenoriaethu cyllid craidd a phartneriaethau tymor hwy.  Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r adroddiad hwn er mwyn ein helpu i lywio’r Gronfa Anabledd ac er mwyn dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu prif bwrpas ac eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau dros y tymor hwy.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i grwpiau allu cynllunio ar gyfer y dyfodol ac y gall cyllid sy’n ddiogel roi hyder a sicrwydd i chi er mwyn datblygu eich prosiect dros yr hirdymor. Mae’r Gronfa Anabledd yn rhoi cyfle i grwpiau wneud cais am gyllid aml-flwyddyn o hyd at dair blynedd, ond a fydd hefyd yn parhau i gynnig blwyddyn o gyllid ar gyfer eitem cyfalaf fechan neu brosiect.

Rydym yn gobeithio y gallwn gynnig o leiaf un grant tair blynedd bob blwyddyn. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, cwblhewch yr adran ychwanegol ar y ffurflen gais, gan nodi sut y byddwch yn datblygu eich prosiect dros y cyfnod y gwneir cais am gyllid. D.S. Caiff eich cais ei ystyried ar gyfer blwyddyn o gyllid os nad ydych yn llwyddiannus gyda’r cais am grant tair blynedd.

Rydym hefyd yn cydnabod yr her o ddod o hyd i gyllid craidd, yn enwedig yn y tymor hwy.  Gall grwpiau nawr wneud cais am gyllid tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, ar yr amod y gll ygrŵp ddarparu cyfrifon ar gyfer y 12 mis diwethaf o leiaf a’ch bod yn gwneud cais am lai na 50% o’ch trosiant blynyddol.  e.e. Er mwyn gwneud cais am grant o £10,000 bob blwyddyn, dylai eich incwm blynyddol fod o leiaf £20,000.

Y grantiau sydd ar gael

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £10,000 bob blwyddyn er mwyn eu helpu gyda chostau sy’n gysylltiedig â gwaith cynorthwyo pobl anabl o fewn y themâu a nodir uchod, ac sydd ag incwm o tua £200,000 yn ôl yr adroddiad ariannol blynyddol diweddaraf. Ystyr tua yw o fewn 20% yn uwch, ond byddai’n well gennym pe byddech yn ein ffonio er mwyn i ni gael sgwrs am eich sefyllfa ariannol cyn gwneud cais, os nad ydych yn siwr.  Rydym yn cydnabod y gallai grwpiau fod wedi gweld cynnydd mewn incwm dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig nad yw’n adlewyrchu blwyddyn ariannol arferol.

Pwy all wneud cais?

Mae’r Gronfa hon yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol cyfansoddedig sy’n gweithio’n benodol gyda phobl anabl yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Grwpiau Cyfansoddedig
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
  • Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg