Cronfa Buddsoddi Cymunedol Trivallis
I gyd, a Rhondda Cynon Taf
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Buddsoddi Cymunedol Trivallis, wedi’i reoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru, wedi’i chynllunio ar gyfer grwpiau cymunedol cyfansoddedig a sefydliadau gwirfoddol sy’n cefnogi pobl yng nghymunedau Trivallis. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos yn gryf yr effaith/effeithiau cadarnhaol y byddant yn eu cael ar y bobl sy’n byw yno.
Rhaid i brosiectau gyfarfod ag o leiaf un o’r themâu canlynol:
• Cynhwysedd Cymdeithasol
• Iechyd a Lles
• Dysgu a Chyflogadwyedd
• Gwelliannau amgylcheddol cynaliadwy
Y grantiau sydd ar gael
Mae yna dwy ffrwd o ariannu:
- Cais Llwybr Carlam o dan £1,000
- Cais Grant Mawr rhwng £1,001 a £5,000
Gall grwpiau wneud cais i’r ddau, ac felly derbyn hyd at £6,000 mewn unrhyw flwyddyn, hy un grant bach (cais llwybr cyflym) ac un grant mawr.
Pwy all wneud cais?
Mae’r Gronfa ar agor i elusennau a sefydliadau cymunedol gyda chyfansoddiad (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol a chlybiau), gan gynnwys grwpiau newydd neu sefydledig ar draws Rhondda Cynon Taf.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr a all ddangos yn union sut y byddant yn cwrdd ag amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac i’r rhai nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth o’r gronfa hon yn ystod y flwyddyn ymgeisio ddiwethaf.
Sut i wneud cais?
Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais
Rydym yn annog pob ymgeisydd Grant Mawr i drefnu sgwrs gyda Swyddog Grantiau am eu prosiect cyn cyflwyno cais. Gall ymgeiswyr archebu amser i drafod eu syniad prosiect a gwirio cymhwysedd yma.

Darparu lle diogel i gyn-filwyr
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: