Cronfa Bwyd Co-op
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
DYDDIAD CAU - 12yh ar y 13eg o Dachwedd, 2020
Datblygwyd y gronfa hon mewn partneriaeth â Ymddiriedolaeth Argyfyngau Genedlaethol a’r Co-op i gefnogi prosiectau tlodi bwyd cynaliadwy.
Blaenoriaethau Allweddol y gronfa –
- AILDDOSBARTHU – Byddwn yn mynd ati i ailddosbarthu ein bwyd dros ben i’r bobl sydd ei angen fwyaf yn ein cymunedau
- MYNEDIAD – Byddwn yn darparu mynediad hawdd i fwyd maethlon a phrydau cytbwys i gwsmeriaid sydd â chyllideb gyfyngedig
- UWCHSGILIO – Byddwn yn helpu i addysgu ac uwchsgilio cwsmeriaid ar atebion cost isel i brydau bwyd, cyfyngu ar wastraff bwyd a siopa’n ddoeth
- POBL IFANC – Byddwn yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol drwy flaenoriaethu lles plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gydag ansicrwydd bwyd
- CYMUNEDAU* – rhaglenni bwyd ar gyfer cymunedau sy’n agored i niwed a ddarperir yn y cymunedau hynny
*mae hon yn flaenoriaeth allweddol i’w nodi fel pe bai’n cynnwys bwyd brys, mae hefyd yn cynnwys prosiectau sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd a’i effeithiau.
Y grantiau sydd ar gael?
- Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Grwpiau cymunedol, elusennau a mentrau cymdeithasol sydd yn rhedeg prosiectau i gefnogi’r gymuned i fynd i’r afael ag effaith pandemig Coronafirws COVID-19 yng Nghymru.
Mae grantiau ar gael i sefydliadau sydd ag incwm o lai na £1 filiwn o fewn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Fodd bynnag, oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael, byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau gan Grwpiau sy’n gweithio yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. E.e. y rhai o fewn yr 20% uchaf ar Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD).
Dim ond grwpiau a sefydliadau a all ddangos eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn glynu wrth ganllawiau’r llywodraeth ynglŷn â’r feirws byddwn yn ei gefnogi.
Ar gyfer beth allwch chi ymgeisio?
- Costau prosiect a chostau rhedeg sefydliadau yn cael eu cefnogi, gan gynnwys costau staff, treuliau gwirfoddolwyr a chostau cludiant.
- Mae costau cyfalaf bach hefyd yn gymwys, ar yr amod bod yr eitemau cyfalaf yn uniongyrchol gysylltiedig â thlodi bwyd.
Beth nad yw’r Gronfa’n gallu ei gefnogi:
Ni fydd y Gronfa yn cefnogi:
- Unigolion
- Busnesau
Mae’r Llywodraeth yn darparu cymorth i unigolion a busnesau.
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.
DYDDIAD CAU – 12yh ar 13eg o Dachwedd, 2020
Noder:
- Ni fydd grantiau’n cael eu dyfarnu’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd weid’I wneud cyn derbyn y llythyr cynnig grant a’r telerau ac amodau wedi’u llofnodi.
- Ni chefnogir prosiectau sy’n dod o fewn cyfrifoldeb y sector statudol e.e. unrhyw beth sy’n dod o fewn y cwricwlwm ysgol.

Yn darparu cefnogaeth hanfodol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: