Cronfa Gwydnwch Coronavirus Cymru
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae’r Gronfa yma’n cefnogi Cymru a bydd yn dosbarthu cyllid a godir o’n Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru ac apêl yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Genedlaethol.
Mae’r gronfa hon wedi cael ei sefydlu i gynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu gwasanaethau a chymorth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu ar y cyd, wedi’u heffeithio gan bandemig y coronafeirws.
Yn bennaf, byddwn yn darparu cymorth ar gyfer y canlynol (Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):
- gweithgareddau sy’n helpu pobl sy’n agored i niwed sy’n hunanynysu (yr henoed, pobl â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes ac ati)
- Anghenion parhaus pobl sy’n agored i niwed i sicrhau bod eu hiechyd a’u lles yn cael eu cynnal
- cymorth i fanciau bwyd a sefydliadau sy’n gweithio i frwydro yn erbyn caledi a achosir gan y pandemig, gan gynnwys newyn plant
- cydgysylltu ymateb cymunedol
- costau gwirfoddolwyr i’r rhai sy’n ymateb i effeithiau’r pandemig
- costau ychwanegol gweithio o bell ac addasu gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned ehangach
- Cymorth ychwanegol yn ôl yr angen ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl a chymorth profedigaeth
Sylwch mai dim ond am 6 mis y byddwn yn ystyried cost cyflwyno’r gwasanaeth / cefnogaeth i ddechrau. Byddwch yn gallu ail-ymgeisio am gyllid pellach os yw’r angen yn dal i fodoli ar ôl Medi 2020.
Os bydd arian yn caniatáu, byddwn yn darparu cymorth i:
- atal colli incwm contractau a chodi arian ar gyfer sefydliadau sy’n rhoi cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed
Sylwch fod ceisiadau sy’n gwneud cais am grant i lenwi’r gap o incwm rydych wedi’i golli yn cael eu roi ar restr wrth gefn ar hyn o bryd a byddwn yn eu hail-ystyried ym mis Gorffennaf pan fydd gennym well syniad o faint o arian sydd gennym i ddosbarthu. Byddwn yn annhebygol o gynnig cyllid i sefydliadau sydd gyda’g cronfeydd wrth gefn sydd dros 6 mis o gostau rhedeg y sefydliad
Y grantiau sydd ar gael
- Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol o hyd at £200,000
- Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i grwpiau sydd ag incwm blynyddol rhwng £200,001 a £500,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a cynghorau cymunedol a tref sydd yn cynnal gweithgareddau i gefnogi’r gymuned drwy effaith pandemig Coronafirus yng Nghymru.
Fyddem ond yn cefnogi grwpiau a sefydliadau a all ddangos tystiolaeth eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw a ganllawiau’r Llywodraeth ynglŷn â’r firws.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais i’r gronfa yma, dylech sbio yma i weld os oes rhywle arall all cefnogi eich sefydliad chi.
Sut i wneud cais?
Rhaid i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais i gael ei ystyried am gyllid.
Cliciwch y botwm ‘Ymgeisio Nawr’ i gychwyn llenwi’r ffurflen gais.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: