Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, I gyd, Sir Fynwy, a Torfaen

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality yn awr yn gau i geisiadau. Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

 

 

Nod Gronfa Gymunedol Uchel Siryff Gwent ’yw darparu bywyd o ansawdd, mwy diogel a gwell i bobl Gwent trwy gefnogi mentrau a phrosiectau cymunedol sydd yn cefnogi pobl ifanc i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dyfernir grantiau mewn digwyddiad rhoi grantiau cyfranogol blynyddol ym mis Mawrth 2024.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Uchel Siryf Gwent.

Pa fath o brosiectau fydd yn cael eu cefnogi?

I fod yn llwyddiannus, rhaid i brosiectau ddangos sut mae eu gweithgareddau’n cyfrannu at un neu fwy o’r canlynol:

  • darparu cefnogaeth i bobl ifanc sy’n berthnasol iddynt a’r heriau sy’n eu hwynebu yn y 2020au, gan gynnwys sefydlu ymddygiad digidol diogel trwy eu helpu i ddeall risgiau a pheryglon cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd;
  • gweithio gyda phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o effaith a chanlyniadau trosedd, gan gynnwys fandaliaeth, difrod troseddol, camddefnyddio alcohol a chyffuriau neu gam-drin sylweddau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a seiberfwlio;
  • lleihau troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy greu cyfleoedd i bobl ifanc a allai fod yn gyflawnwyr ac yn ddioddefwyr troseddau fel cam-drin ar y stryd, fandaliaeth a seiberfwlio;
  • targedu achosion sylfaenol trosedd a mynd i’r afael â’r problemau sy’n gyrru pobl ifanc i droseddu;
  • cynnwys pobl ifanc mewn gweithgareddau cadarnhaol sy’n darparu mwy o gefnogaeth gymdeithasol, modelau rôl cadarnhaol a ffactorau amddiffynnol eraill i’w helpu i ddatblygu’n ddinasyddion da yn y dyfodol; a
  • cefnogi dioddefwyr troseddau, gan gynnwys cam-drin domestig a chaethwasiaeth fodern, ac amddiffyn y bregus.

Y grantiau sydd ar gael

Grantiau am 1 flwyddyn

Gwahoddir grwpiau i wneud cais am grantiau o hyd at £5,000 i’w wario yn 2023-24 ar ystod o gostau a allai gynnwys:

  • Treialu prosiect newydd
  • Costau rhedeg rhaglen o weithgareddau
  • Prynu offer a deunyddiau 

Beth yw rhoi grantiau cyfranogol?

Mae rhoi grantiau cyfranogol yn ymwneud â datganoli penderfyniadau gwneud grantiau i’r gymuned leol. Mae’n galluogi pobl leol i benderfynu ar y ffordd orau i fynd i’r afael â materion lleol trwy ddewis cefnogi mentrau sy’n dangos atebion effeithiol orau i’r problemau sy’n wynebu cymunedau yng Ngwent.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i ddod i’n digwyddiad rhoi grantiau blynyddol ar 2 Mawrth 2024 mewn lleoliad yn Casnewydd. Gwnewch yn siwr bod cynrichiolydd o’ch sefydliad ar gael ar y dyddiad yma cyn gwneud cais.

Pwy all wneud cais?

Defnyddir y Gronfa i gefnogi prosiectau ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

Mae’r Gronfa ar agor i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennau lleol yn Gwent (ardaloedd awdurdodau lleol Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili). Mi fyddem yn blaenoriaethu ceisiadau gan sefydliadau llawr gwlad lle mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol ar gyflawni prosiectau.

Bydd prosiectau sydd wedi derbyn cyllid o’r blaen yn cael eu hystyried. Dylai prosiectau o’r fath ddangos sut y bydd cyllid parhaus yn eu helpu i gydgrynhoi neu wella effaith y prosiect. Nid oes gofyniad bellach am seibiant 2 flynedd ar ôl 3 blynedd o gyllid grant parhaus.

Ymysg y mathau o sefydliad a all wneud cais mae:

1.    Grwpiau gyda chyfansoddiad/Cymdeithas Anghorfforedig

2. Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO)
3.    Cwmni cyfyngedig dan warrant (nid er mwyn elw preifat)
4.    Cwmnïau Budd Cymunedol (CIC)
5.    Mentrau Cymdeithasol

Rhaid i bob ymgeisydd:

  • Gael cyfrif banc yn enw’r grŵp/sefydliad, gan na ellir talu’r grant i unigolion na chyfrifon banc personol
  • Gael ei gyfansoddi’n iawn (er nad o reidrwydd yn elusen gofrestredig)
  • Gallu cyflwyno eu cyfrifon blynyddol archwiliedig diweddaraf, neu, o leiaf, dystiolaeth o incwm a gwariant diweddar

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar-lein erbyn 12yh ar 15eg o Dachwedd 2023.

Cofiwch:

  • Ni fyddwn yn dyfarnu grantiau’n ôl weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes yn ddyledus cyn derbyn y llythyr cynnig grant a llofnodi’r telerau ac amodau.
  • Rhaid i ymgeiswyr allu dangos yr angen ariannol / chymdeithasol y bydd y grant yn ei ddiwallu, a dangos sut maent yn bodloni prif themâur meini prawf uchod.
Cronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent

Defnyddio gwneud ffilmiau i adeiladu hyder mewn pobl ifanc

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg