Cronfa LNB
Gwynedd, I gyd, a Powys
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa LNB yn cefnogi sefydliadau sy’n gweithio i ddiogelu a gwarchod amgylchedd a threftadaeth cymunedau lleol ledled Gwynedd, Meirionnydd, a Threfaldwyn (gan gynnwys prosiectau trawsffiniol yn Swydd Amwythig).
Mae Cronfa LNB yn chwilio am geisiadau gan brosiectau sydd wedi’u hanelu at warchod llawer o bethau gwahanol o’r gorffennol rydym yn eu gwerthfawrogi ac am drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol, megis:
- Casgliadau o eitemau, llyfrau neu ddogfennau mewn amgueddfeydd, llyfrgelloedd neu archifau
- Traddodiadau diwylliannol lleol megis straeon, gwyliau, crefftau, iaith, cerddoriaeth, dawns a gwisgoedd
- Atgofion a phrofiadau pobl (a gofnodir fel ‘hanes llafar’ yn aml)
- Tirweddau a gerddi naturiol ac wedi’u dylunio
- Treftadaeth naturiol gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau a daeareg
Y grantiau sydd ar gael
Gall sefydliadau wneud cais am grantiau rhwng £1,000 a £3,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid er elw cyfansoddedig sy’n rhedeg prosiectau sy’n bodloni nodau’r Gronfa fel yr esbonnir uchod.
Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.
Sut i wneud cais?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.