Cronfa Seaburne
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Seaburne yn gronfa sydd yn cefnogi pobl o’r uwchradd i addysg bellach neu addysg uwch ledled Cymru sydd gyfda’g angen gwirioneddol am gymorth ariannol, ac na fyddai lefel y cyrhaeddiad addysgol y maent yn dymuno ei gyflawni yn bosibl heb y cymorth o’r gronfa hon.
Mae’r Gronfa yn anelu i wella addysg a chryfhau cymunedau yng Nghymru.
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio Cronfa i Gymru a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir.
Y Grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion ymgeisio am rhwng £1,000 a £1,500. Cofiwch, os ydych yn ymgeisio am fwrsari, bydd y grant yn parhau am y tymor astudio cyfan ar gyfer y cymhwyster.
- Gall sefydliadau ac ysgolion ymgeisio am grantiau o hyd at £1,500
- Rydym yn ystyried grantiau am rhwng 1 a 3 blwyddyn.
Pwy sy’n gallu ymgeisio?
Rydym yn ystyried ceisiadau gan unigolion, grwpiau a sefydliadau di-elw ledled Cymru sy’n cefnogi anghenion addysgol myfyrwyr. Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol o bosibl o ganlyniad i bandemig COVID.
Sefydliadau:
Bydd arian y gronfa’n cael ei ddefnyddio i gefnogi sefydliadau ac *ysgolion i redeg prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc o dan anfantais i ehangu a gwella eu dyheadau o ran addysg a gyrfa.
*Cofiwch y bydd yn RHAID i bob ysgol sy’n cyflwyno cais i’r gronfa allu dangos fod eu prosiect y tu allan i’r cwricwlwm ac NAD yw’n ddarpariaeth statudol.
Gellir cefnogi unigolion i
- Brynu offer sydd ei angen ar gyfer eu hastudiaeth
Dalu costau addysg bellach drwy fwrsari i fyfyrwyr dawnus a thalentog sydd wedi bod o dan anfantais ac nad ydyn nhw’n gallu cynnal eu hunain yn economaidd i astudio ymhellach am gyfnod y cwrs. Rydym yn derbyn ceisiadau am astudiaeth ôl-raddedig, ond bydd ceisiadau israddedig yn cael eu blaenoriaethu
Sut i wneud cais?
Rydym yn derbyn ceisiadau am fis cyn y dyddiad cau o 15fed o Chwefror 2022. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu am y canlyniad o fewn 2 fis o’r dyddiad cau.
Ni fyddem yn gallu derbyn ceisiadau sydd yn cael ei cyflwyno ar ol y ddyddiad cau uchod.
Cofiwch:
- Ni fyddwn yn dyfarnu grantiau’n ôl gweithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes yn ddyledus cyn derbyn y llythyr cynnig grant a llofnodi’r telerau ac amodau.
- Rhaid i ymgeiswyr allu dangos yr angen ariannol / chymdeithasol y bydd y grant yn ei ddiwallu.
- Ni roddir grantiau i unigolion tuag at gostau os oes cefnogaeth ariannol arall ar gael e.e. ffioedd hyfforddiant ble mae’r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer benthyciad myfyriwr.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: