Cronfeydd Sir y Fflint

I gyd, a Sir y Fflint

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

 

 

Mae gan ardal Sir y Fflint ddwy gronfa, Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint a Chronfa Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint.

Mae Cronfa Waddol Gymunedol Sir y Fflint yn cefnogi:

  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc o oedran ysgol
  • Prosiectau sy’n darparu datblygiad addysgol i blant yn y blynyddoedd cynnar
  • Prosiectau mewn ysgolion sy’n annog byw yn iach
  • Prosiectau cyrhaeddiad addysgol gan gynnwys dysgu gydol
  • Prosiectau cynhwysedd addysg ar gyfer myfyrwyr unigol ar ffurf bwrsarïau, cymorth i deithi

Cronfa Ymddiriedolaeth Elusennol yw Cronfa Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru Sir y Fflint sy’n cael ei gweinyddu gan Sefydliad Cymunedol Cymru. Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth yn cael ei rheoli gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914.

Mae’r gronfa’n cefnogi:

  • Prosiectau sy’n cyfrannu at adnewyddu a chynnal a chadw eglwysi, capeli a neuaddau pentref yn y sir.
  • Prosiectau sy’n gweithio i ymladd anfantais er budd trigolion Sir y Fflint.
  • Prosiect sy’n darparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden ar gyfer trigolion Sir y Fflint.

Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio Cronfeydd Sir y Fflint a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfeydd Sir y Fflint yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.

Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.

Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau cymunedol yn gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft i ymgeisio am grant o £1,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod o leiaf £2,000.

Pwy all wneud cais?

  • Gall eglwysi a sefydliadau nid er elw sy’n gweithio gyda thrigolion ardal Awdurdod Lleol Sir y Flint ymgeisio am grantiau o hyd at £1000. Mae’r gronfa yn agored i geisiadau. Y dyddiad cau yw 9 Medi am 12pm (canol dydd)
  • Unigolion hyd at a chan gynnwys 25 oed sy’n byw yn ardal Awdurdod Lleol Sir y Fflint ar hyn o bryd, cyn belled nad yw’r mentrau yn dod o dan ddarpariaeth statudol.

Sut i wneud cais?

Mae’n rhaid i bob grŵp lenwi ffurflen gais ar lein y gellir ei chael drwy ein gwefan.

Os ydych yn ymgeisio fel unigolyn, dylech lawrlwytho fersiwn dogfen Word o’r ffurflen gais o’n gwefan a’i llenwi.

Ni fydd unrhyw gais am grant a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cronfeydd Sir y Fflint

Fy helpu i ddatblygu yn y gêm rwy’n ei charu

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Croeso Cenedl Noddfa

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg