Sefydliad Wesleyan
Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Cafodd Sefydliad Wesleyan ei sefydlu yn 2017 ac mae’n cefnogi nifer o achosion da ar hyd a lled y DU, yng Nghaerdydd yn benodol.
Mae Sefydliad Wesleyan yn chwilio am geisiadau o brosiectau sy’n gwneud y canlynol:
- gwella iechyd a llesiant y gymuned leol
- hyrwyddo addysg a dysgu gydol oes
- reu atebion arloesol i heriau cymdeithasol gan hyrwyddo cydlyniant cymunedol a datblygu gwydnwch mewn cymunedau.
Y grantiau sydd ar gael
Mae grantiau o ddau faint ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yn Ninas a Sir Caerdydd:
Grantiau bach:
- gall grwpiau cymunedol cyfansoddedig ac elusennau cofrestredig lleol sydd ag incwm o dan £250,000 wneud cais am grantiau o hyd at £2,000.
Grantiau mawr:
- gall grwpiau cymunedol cyfansoddedig ac elusennau cofrestredig sydd ag incwm o dan £500,000 wneud cais am grantiau rhwng £2,000 a £10,000
Pwy all wneud cais?
Elusennau, grwpiau a sefydliadau nid er elw cyfansoddedig sy’n rhedeg prosiectau a gweithgareddau er budd eu cymuned leol (e.e. clybiau ar ôl ysgol, hyfforddiant a phrosiectau meithrin sgiliau, clybiau cinio, caffis cofio, gwasanaethau cyfeillio ac ati.).

Helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i deimlo’n gartrefol
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: