Cronfa Argyfwng Llifogydd

Cefnogi cymunedau ar adegau o argyfwng

Pan fydd trychinebau’n taro, rydym yn gweithredu’n gyflym i sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn union pan fydd ei angen arnynt.

Mae’r Gronfa Argyfwng Llifogydd, a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru, yn darparu cymorth hanfodol i bobl a chymunedau y mae llifogydd yn effeithio arnynt.

Drwy ddod â grwpiau, busnesau a chyllidwyr lleol ynghyd, mae’r Gronfa Argyfwng Llifogydd yn darparu cymorth hanfodol i grwpiau cymunedol lleol i’w galluogi i gefnogi’r bobl sydd ei angen fwyaf.

Mae’r gronfa hon yma, wedi’i sefydlu a bob amser yn barod i ymateb yn ystod argyfwng.

Diolch i’n partneriaethau cryf gyda chorfforaethau y DU a byd-eang, gallwn ysgogi cefnogaeth yn gyflym pan fydd argyfyngau ar raddfa fawr yn effeithio ar Gymru. Trwy ein cydweithrediad â’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, gallwn sianelu cyllid o bob rhan o’r DU a thu hwnt i sicrhau ei fod yn cyrraedd lle mae ei angen yng Nghymru.

Mae ein tîm grantiau profiadol yn gweithio’n agos gyda chymunedau lleol i ddeall eu hanghenion penodol, gan sicrhau bod ein grantiau’n cael yr effaith fwyaf posibl.

Gallwch gyfrannu at y Gronfa Argyfwng Llifogydd ar unrhyw adeg isod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn partneru â ni ar y Gronfa Argyfwng Llifogydd, cysylltwch â ni yn info@communityfoundationwales.org.uk.