Diogelu dyfodol eich elusen
Fel ymddiriedolwr elusen, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr fod gan y sefydliad rydych chi’n ei lywodraethu arian elusennol wrth gefn. Ond, nid yw’n ddigon cadw’r arian mewn cyfrif cadw, maen rhaid buddsoddi’r arian yn ddoeth er mwyn trechu chwyddiant a’r risg y bydd eich asedau’n cael eu dibrisio.
Os yw eich elusen eisoes yn buddsoddi arian elusennol, oes gennych chi’r sgiliau llywodraethu sydd eu hangen i wneud yn siŵr eich bod yn cael y llogau a’r tyfiant gorau?
Yn aml iawn, mae yna bobl ar fyrddau ymddiriedolwyr sy’n angerddol dros ryw achos neu’i gilydd, ond bod y byrddau hynny’n brin o sgiliau arbenigol ar gyfer rhai meysydd o waith, rheoli buddsoddiadau elusennol er enghraifft.
Fel sefydliad elusennol annibynnol, gall Sefydliad Cymunedol Cymru helpu.

Cronfa Asiantaeth
Mae gennym ni sgiliau llywodraethu arbenigol mewn buddsoddi ariannol elusennol, mewn rheoli risg a sicrhau bod arian ar gael ar gyfer grantiau. Mae ein strategaeth buddsoddi, sydd wedi’i chymeradwyo gan y bwrdd, yn cael ei hadolygu bob tair blynedd i wneud yn siŵr bod ein hamcanion buddsoddi’n cyd-fynd â’n nodau fel sefydliad elusennol. Rydyn ni’n dirprwyo darparu ein strategaeth i’n rheolwyr buddsoddi: Brewin Dolphin a CCLA. Bydd ein Pwyllgor Cyllid, Risg a Buddsoddi yn cadw golwg ar hynny bob chwarter.
Rydyn ni’n gallu cynnig dewis Cronfa Asiantaeth, lle byddwn ni’n gallu gweithio mewn partneriaeth gyda’ch elusen chi i gynnig ein sgiliau llywodraethu i’ch helpu chi i reoli eich arian buddsoddi. Byddwch chi’n elwa o’n harbenigedd a’n gwybodaeth gydag arian a buddsoddiadau a byddwch chi hefyd yn gallu gadael y gwaith o gysylltu gyda rheolwyr buddsoddi i’n staff ac i’n hymddiriedolwyr arbenigol. Fe fyddwn ni’n adrodd yn ôl yn rheolaidd i chi ac yn rhoi gwybod i chi am berfformiad y llogau a’r enillion.
Yn ogystal â chael yr heddwch meddwl o wybod bod eich elusen yn elwa o’n harbenigedd, sgiliau a rheoli risg, byddwch hefyd yn gwybod eich bod yn cyfrannu at gryfhau sefydliad elusennol sy’n cefnogi grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni, dyma sydd gan un o’r deiliaid cronfa asiantaeth, Mudiad Meithrin, i’w ddweud.
Os ydych chi’n meddwl y byddai hyn yn ddewis defnyddiol i’ch elusen chi, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni i drafod ymhellach.
Eisiau gwybod mwy?
Galwch Katy Hales, Rheolwr, Rhodd dan Reolaeth Unigolion ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw: