Clare Davies
Swyddog Grantiau

Fy nghefndir
Fe ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru fis Ionawr 2020 ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe mewn Hanes a Pholisi Cymdeithasol.
Drwy astudio polisi cymdeithasol am dair blynedd, roeddwn yn dod i wybod, a deall, y problemau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu Cymru, mewn dinasoedd mawr neu mewn ardaloedd gwledig, llai, a beth ellir ei wneud i ymladd y problemau hynny.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n Swyddog Grantiau, yn aelod o Dîm Grantiau’r Sefydliad. Y tîm Grantiau sy’n gyfrifol am redeg y rhaglenni grantiau a rhannu mwy na £2 filiwn mewn grantiau bob blwyddyn i brosiectau ac elusennau yng Nghymru.
Holwch fi ynghylch...
Unrhyw beth am grantiau.
Pam rwy’n caru Cymru
Cefais fy ngeni a’m magu mewn pentref bychan gwledig ar gyrion Caerdydd a chafodd pawb o’m teulu eu magu yn Abertawe.
Rwy’n caru’r rhyddid o fyw yn y wlad ond o fewn taith fer i’r traeth neu i’r Brifddinas.