Ffion Roberts
Rheolwraig Grantiau a Rhaglenni

Fy nghefndir
Ymunais â’r Sefydliad Cymunedol fel Swyddog Grantiau ym mis Ebrill 2015 ar ôl gweithio i Menter Môn yng Ngogledd Cymru ar raglen a rriennir gan Ewrop o’r enw Cyfenter am dair blynedd, a oedd yn cefnogi Mentrau Cymdeithasol yn Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a Sir Ddinbych. Rwyf hefyd yn aseswr ar gyfer y Marc Ansawdd Elusennau Ddibynadwy ac rwy’n angerddol am gefnogi a chryfhau’r trydydd sector yng Nghymru.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Fi yw Rheolwraig Grantiau a Rhaglenni i’r Sefydliad. Dwi’n teimlo’n lwcus fy mod i’n cael gweld y gwahaniaeth mae ein grantiau yn ei wneud bob dydd. Fy ngwaith i yw sicrhau bod ein grantiau yn cael yr effaith fwyaf bosib trwy fynd i’r afael â materion allweddol sy’n effeithio ar bobl yng Nghymru.
Rwy’n arwain y Tîm Grantiau i reoli rhaglenni grantiau newydd a phresennol yn effeithiol ac yn effeithlon.
Fy hoff ran o’r swydd yw clywed am y gwahaniaeth mae grant gan y Sefydliad wedi’i wneud i grŵp neu sefydliadl. Mae bob amser yn syndod faint y gellir ei gyflawni gyda grant gymharol fach. Rwyf hefyd yn mwynhau mynd i gwrdd â grwpiau a gweld y brwdfrydedd sydd gan y staff a’r gwirfoddolwyr dros y gwaith y maent yn ei wneud yn y gymuned.
Holwch fi ynghylch...
Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein cronfeydd neu’r broses ymgeisio. Rwyf bob amser yn barod i drafod syniadau ar gyfer prosiectau, sut y gallaf eich cysylltu ag eraill sy’n gweithio mewn meysydd tebyg a syniadau ar gyfer rhannu arfer gorau i sicrhau bod y trydydd sector yn parhau i dyfu mewn cryfder a chydag enw da am ymgysylltu a chyfranogi.
Pam rwy'n caru Cymru
Cefais fy ngeni a’m magu ar Ynys Môn, felly rwy’n hoff iawn o gefn gwlad a bod ar lan y môr. Byddaf yn gyrru ar hyd yr A470 ar fy ffordd i ymweld â’m teulu a’m ffrindiau, sy’n rhan bwysig o’m mywyd. Symudais i Gaerdydd yn 2015, a nawr rwy’n cael y gorau o’r ddau fyd.
Rwyf hefyd yn frwdfrydig dros yr iaith Gymraeg. Cymraeg yw fy mamiaith ac rwy’n falch o ddweud fy mod yn ei defnyddio bob dydd, yn bersonol ac yn broffesiynol.